Written evidence submitted by The Growing Mid Wales Partnership (HIL0011)
(English version below)
Ymateb – Effeithiau economaidd a diwylliannol polisi masnach ac amgylcheddol ar ffermydd teuluol yng Nghymru
Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu'r cyfle i ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Llywodraeth y DU ynghylch effeithiau economaidd a diwylliannol polisi masnach ac amgylcheddol ar ffermydd teuluol yng Nghymru.
Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yw'r bartneriaeth economaidd strategol ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru, ac mae'n cynnwys cyrff o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Fel fforwm economaidd rhanbarthol, mae gennym ddiddordeb brwd yn nyfodol byd amaeth, sy'n hollbwysig i'r economi ranbarthol yma yng Nghanolbarth Cymru, gan gyflogi dros 13,900 o bobl[1]. O'r herwydd, byddwn yn canolbwyntio ein hymateb ar effeithiau economaidd posibl newidiadau polisi, yn unol â chais y pwyllgor.
Cyd-destun
Mae amaethyddiaeth yn hollbwysig i economi Canolbarth Cymru, gan gyflogi dros 13,900 o bobl, ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant a chymunedau'r rhanbarth. Mae Canolbarth Cymru yn gartref i 7,324 o ffermydd a 48% o'r holl ddefaid a amaethir yng Nghymru[2]. Ffermydd mynydd yw'r mwyafrif helaeth o'r ffermydd hyn – dosbarthir 81% o'r tir yng Nghanolbarth Cymru yn Ucheldir[3]. Fel rheol, dosbarthir y tirlun hwn yn dir 'amaethyddol llai ffafriol', ac wrth gwrs, mae hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i ffermwyr o ran y gweithgarwch ffermio ac arallgyfeirio.
Mae'r sector yn wynebu sialensiau ac ansicrwydd posibl wrth ymateb i Brexit. Mae cyfleoedd yn bodoli i arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth i'r sectorau amaethyddol a bwyd; prosesu cynnyrch amaethyddol; a manteisio ar Ymchwil a Datblygu a chryfderau'r diwydiant bwyd, ac ystyried y pridd, y tir a'r tywydd – megis anifeiliaid, yn enwedig cig oen Cymreig.
Caiff y sector ei gynorthwyo yn y rhanbarth gan bresenoldeb sefydliadau cymorth strategol allweddol, y mae eu pencadlysoedd o fewn ei ffiniau, gan gynnwys Menter a Busnes, Hybu Cig Cymru, Lantra, Hyfforddiant Cambrian, yn ogystal â'r ddwy brif undeb amaethyddol (FUW ac NFU). Mae presenoldeb Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn y rhanbarth yn ysgogydd allweddol ar gyfer yr economi a'r sector hefyd – wrth iddi arddangos amaethyddiaeth, a bwyd a diod rhanbarthol. Mae ychwanegiad Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation) wedi ychwanegu adnoddau pellach sydd ar gael er mwyn helpu'r sector i dyfu, gan ystyried gweithgarwch cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
Cytundebau Masnach Rydd
Mae'n anodd gwneud sylw am oblygiadau posibl cytundebau masnach rydd i ffermwyr yng Nghanolbarth Cymru o ystyried natur amrywiol cytundebau o'r fath.
Mae ffermio mynydd, sef rhan fwyaf y ffermio a wneir yn ardaloedd ucheldir Canolbarth Cymru, yn dibynnu ar fagu defaid a chynhyrchu cig oen yn dilyn hyn, yn enwedig 'ŵyn ysgafn'. Caiff 48% o'r defaid yng Nghymru eu magu ar ffermydd yng Nghanolbarth Cymru[4]. Mae'n sector sy'n agored i niwed gan newidiadau o ran mynediad i'r farchnad a chostau masnach. Gallai unrhyw gytundebau masnach rydd sy'n rhoi tariffau ar allforion cig oen Cymreig danseilio hyfywedd nifer o ffermydd yng Nghanolbarth Cymru. Yn yr un modd, bydd cytundebau masnach sy'n arwain at fwy o gystadleuaeth am farchnadoedd y DU trwy gyflenwad cynyddol, a'r pwysau ar brisiau yn deillio o hyn, yn cael effaith negyddol.
Gallai gofynion tollau a chostau cysylltiedig beri problem i ffermwyr hefyd, yn enwedig os bydd oedi wrth ffiniau, sy'n arwain at y posibilrwydd o golli neu wastraffu cynhyrchion.
Buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol
Ceir ansicrwydd o hyd am y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r cyllid newydd i Gymru yn dilyn cylch presennol y Cyllid Strwythurol Ewropeaidd. Yn yr un modd, ceir ansicrwydd ynghylch darpariaeth gweithgarwch yn y dyfodol a ariannir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig ar hyn o bryd. Mae'r cronfeydd hyn yn darparu buddsoddiad y mae cryn angen amdano mewn sgiliau, cymorth busnes a seilwaith cyfalaf yng Nghymru.
Mae Canolbarth Cymru yn gartref i ddarparwyr cymorth allweddol i ffermwyr a'r diwydiant amaeth yng Nghymru megis Hybu Cig Cymru a Menter a Busnes, sy'n darparu gwasanaethau cynghori technegol Cyswllt Ffermio ar gyfer y diwydiant amaeth yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethau a phrosiectau allweddol eraill megis Prosiect Helix, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Llandysul, ac sy'n darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar arloesi, strategaeth bwyd ac effeithlonrwydd a fydd yn cynyddu cynhyrchiant. Ariannir gweithgareddau'r gweithrediadau hyn yn rhannol gan y Rhaglen Datblygu Gwledig, felly maent yn wynebu ansicrwydd. Dylid cadw'r canolfannau arbenigedd amaethyddol hyn er mwyn cynnig yr arbenigedd dechnegol a'r wybodaeth i ffermwyr a fydd yn eu galluogi i addasu mewn ffordd lwyddiannus a chynaliadwy i unrhyw newidiadau i bolisi masnach ac amgylcheddol yn y dyfodol.
Os collir buddsoddiad rhanbarthol a buddsoddiad RDP o economi Canolbarth Cymru, mae'n naturiol y bydd hyn yn cael effaith gynyddol. Mae adroddiad a gynhyrchwyd ar ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn dangos bod y sector ffermio yng Nghymru yn gwario £868 miliwn ar nwyddau a gwasanaethau. Yn ogystal â gwariant uniongyrchol, mae'r cysylltiadau agos rhwng ffermio, yr amgylchedd a thwristiaeth yn cynnig hwb i economi Cymru hefyd. Am bob £1 a fuddsoddir mewn cymorth ar gyfer ffermydd yn y DU, mae ffermio yn rhoi £7.40 yn ôl i'r economi[5]. Rheolir dros 80% o gefn gwlad Cymru gan ffermwyr, a'r tirluniau eiconig hyn sy'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd, gan ysgogi diwydiant twristiaeth sy'n werth £2.5 biliwn i Gymru.
Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig
Mae'r berthynas gref rhwng yr iaith Gymraeg a'r sector amaethyddol eisoes yn hysbys. Gan bod canran uwch o weithwyr yn y diwydiant amaeth yn siarad Cymraeg na'r ganran a welir mewn unrhyw sector arall yng Nghymru a gan bod cyfran y siaradwyr Cymraeg yn diwydiant (43%) lawer yn uwch na'r gyfran yn y boblogaeth gyffredinol (19%), ceir cysylltiad cryf rhwng dyfodol byd amaeth a dyfodol yr iaith.[6]
Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod unrhyw bolisïau masnach neu amgylcheddol yn y dyfodol a'r system talu budd-daliadau yn cynorthwyo diwydiant ar y fferm deuluol, yn ogystal â chymunedau a mentrau gwledig ehangach, er mwyn sicrhau twf parhaus yr iaith Gymraeg. Yn gynyddol, gwelir galwadau i ystyried y rôl y gall polisi cynllunio ei gyflawni hefyd wrth sicrhau cymunedau Cymraeg bywiog trwy gynorthwyo datblygiad mentrau gwledig a gweithgarwch arallgyfeirio amaethyddol. Gallai'r system gynllunio helpu aelodau cymunedau gwledig hefyd rhag cael eu gwthio o'u cymunedau oherwydd diffyg tai a'r ffaith y gwelir trwch o ail gartrefi yn yr ardal leol.
Response - The economic and cultural impacts of trade and environmental policy on family farms in Wales
The Growing Mid Wales Partnership welcomes the opportunity to respond to the UK Government’s Welsh Affairs Committee’s enquiry into the economic and cultural impacts of trade and environmental policy on family farms in Wales.
The Growing Mid Wales Partnership is the strategic economic partnership for the Mid Wales region, consisting of public, private and third sector bodies. As a regional economic forum, we have a keen interest in the future of agriculture, which is of paramount importance to the regional economy here in Mid Wales, employing over 13,900 people[7]. As such, we will focus our response on the potential economic impacts of policy changes as requested by the committee.
Context
Agriculture is of paramount importance to the Mid Wales economy, employing over 13,900 people and instrumental in the region’s culture and communities. Mid Wales is home to 7,325 farms and 48% of all farmed sheep in Wales[8]. The vast majority of these farms are upland hill farms - 81% of the land mass in Mid Wales is classed as Upland[9]. Typically this landscape is classed as ‘agriculturally less favoured’ land, which naturally limits the opportunities available to farmers both in term of farming and diversification opportunities.
The sector faces potential challenges and uncertainty in responding to Brexit. Opportunities exist to diversify and add value to the agricultural and food sectors; the processing of agricultural produce; and exploiting R&D & food industry strengths and taking account of soil, terrain and weather – such as livestock, in particular Welsh lamb.
The sector is supported in the region through the presence of key strategic support organisations head quartered within its boundaries, including Menter a Busnes, Hybu Cig Cymru, Lantra, Cambrian Training as well as the two main farming unions (FUW and NFU). The Royal Welsh Agricultural Society’s presence in the region is also a key driver for the economy and the sector – from its showcase of regional agriculture, and food and drink. The addition of the Aberystwyth Innovation and Enterprise Campus (AberInnovation) has further added resources available to help the sector grow, looking at future food production.
Free Trade Agreements
It is difficult to comment on the potential implications of free trade agreements for farmers in Mid Wales given the varying natures of such agreements.
Hill farming, which makes up the majority of farming in the upland areas of Mid Wales, relies on rearing sheep and subsequent lamb meat production, especially ‘light lamb’. 48% of sheep in Wales are reared on farms in Mid Wales[10]. It is a sector vulnerable to changes in market access and costs of trade. Any free trade agreements which place tariffs on Welsh lamb exports could undermine the viability of many farms in Mid Wales. Likewise trade agreements which result in increased competition for UK markets through increased supply, and the resulting downward pressure on prices will have a negative impact.
Customs requirements and associated costs may also pose an issue for farmers, especially if there are delays at borders leading to potential loss or waste of products.
Future regional investment
There remains uncertainty around the Shared Prosperity Fund and replacement funding for Wales following the current European Structural Funding cycle. Likewise, there is uncertainty about the future delivery of activity currently funded by the Rural Development Programme. These funds provide much needed investment in skills, business support and capital infrastructure in Wales.
Mid Wales is home to key support providers for farmers and the agricultural industry in Wales such as Hybu Cig Cymru and Menter a Busnes, who deliver the technical advisory services of Farming Connect for the agricultural industry in Wales, as well as other key services and projects such as Project Helix based at the Food Centre Wales in Llandysul, which delivers knowledge transfer activity focused on innovation, food strategy and efficiency which will increase production. The activities of these operations are part-funded by the Rural Development Programme, and are thus facing uncertainty. These centres of agricultural expertise should be retained in order to provide farmers with the technical expertise and knowledge to adapt successfully and sustainably to any forthcoming changes in trade and environmental policy.
If regional investment and RDP investment are lost from the Mid Wales economy, this will naturally have a knock on effect. A report produced on behalf of the National Farmers’ Union (NFU) shows the farming sector in Wales spends £868 million on goods and services. As well as direct spend, the close links between farming, the environment and tourism also provide a boost for the Welsh economy. For every £1 invested in farm support in the UK, farming delivers £7.40 back to the economy[11]. Over 80% of the Welsh countryside is managed by farmers, and it is these iconic landscapes that attract visitors from around the world and stimulate a tourism industry worth £2.5 billion to Wales.
Welsh Language and Culture
The strong relationship between the Welsh language and the agricultural sector is already known. Due to the fact that a greater percentage of workers in the agricultural industry speak Welsh than in any other sector in Wales and the proportion of Welsh speakers in the industry (43%) is significantly higher than that of the population as a whole (19%), there is a strong connection between the future of agriculture and the future of the language.[12]
It is therefore vital that the UK Government ensures that any future trade or environmental policies and the benefit payment system supports industry on the family farm, as well as wider rural enterprises and communities, to ensure the continued growth of the Welsh language. Increasingly, there are also calls to consider the role planning policy can play in ensuring vibrant Welsh language communities by supporting the development of rural initiatives and agricultural diversification. The planning system could also help members of rural communities from being pushed out of their communities because of a lack of housing and a dominance of second homes in the locality.
October 2021
[1] Cynllun Economaidd Strategol Gweledigaeth er mwyn Tyfu Canolbarth Cymru
[2] Ffigurau 2017, Llywodraeth Cymru, Cyfrifiad Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, ar gael gan StatsCymru
[3] Ymgynghorwyr White, ar gyfer NRW, Ystadegau Gweledol a Synhwyraidd LANDMAP, 2017
[4] Llywodraeth Cymru, Ystadegau Ardal Bach Amaethyddol, 2018
[5] The Development Economics ‘Contributions of UK Agriculture’ 2017
[6] https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/sites/walesruralnetwork/files/Iaith%20y%20Pridd%20%28s%29.pdf
[7] A Vision for Growing Mid Wales Strategic Economic Plan
[8] 2017 figures, Welsh Government, Census of Agriculture and Horticulture, available at StatsWales
[9] White Consultants, for NRW, LANDMAP Visual and Sensory Statistics, 2017
[10] Welsh Government, Agricultural Small Area Statistics, 2018
[11] The Development Economics ‘Contributions of UK Agriculture’ 2017
[12] https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/sites/walesruralnetwork/files/Iaith%20y%20Pridd%20%28s%29.pdf