Welsh Government Written evidence (EDU0101)

 

  1. Introduction

1.1              This paper provides information and reflections on the Welsh Government’s curriculum approach and experiences in support of the Committee’s inquiry.

1.2              In conjunction with stakeholders across Wales and the education profession, we have embarked on a long-term process of reform, with our transformational Curriculum for Wales (CfW) at its heart. While the evolution of curriculum and assessment arrangements provides the catalyst for renewed focus on the purpose of education in Wales, this paper also summarises how this is underpinned by holistic education reform, how we are enabling the education profession’s agency at the centre of curriculum development, and how we are ensuring our reforms remain focussed on the needs of all children and young people in Wales as part of our National Mission to achieve high standards and aspirations for all.

 

  1. Curriculum for Wales

Background

2.1              The CfW framework guidance was published in January 2020, following an extensive co-construction process with the teaching profession and a wide range of educational expertise. It has been designed as a clear statement of what we see as important in a broad and balanced education. The CfW aims to enthuse children and young people about learning in ways that include the vital contribution of discipline-based learning and the knowledge, as well as skills and dispositions that help them meet the needs of today and the challenges of tomorrow.

2.2              The CfW has been designed as a national framework for learners aged 3 to 16 to support practitioners to develop their school curriculum: allowing them flexibility to meet the specific needs of their learners in their contexts and communities. Supporting teacher agency and empowering schools in this way is also recognises and values the place and capacity of the teaching profession, with consequent positive impacts on teacher wellbeing. The CfW is a culture shift, but it sets out a very clear framework developed by schools, with clear requirements in which schools will need to operate.

2.3              In addition, the CfW empowers schools to pro-actively consider the educational effects of disadvantage as an integrated part of their curriculum design, including raising expectations and addressing gaps in learner progress and attainment. At the very outset, the CfW guidance challenges schools to consider how their curriculum accounts for additional learning needs (ALN) and different gaps in attainment.

2.4              Within the CfW framework, the six mandatory Areas of Learning and Experience (Areas) are organised through a total of 27 mandatory ‘statements of what matters’, which sum up the most important knowledge, skills and experiences and represent what we want for all educated 16 year old learners in Wales.

2.5              This approach sets out experiences, knowledge and skills nationally to help reduce variation in school level curriculum design, whilst allowing for local flexibility. The process of exploring and revisiting these statements throughout the 3-16 continuum enables learners to develop ever deeper knowledge over time and to progress to a more sophisticated understanding in each Area. This allows learners to value their learning, rather than simply being able to recall isolated facts without context.

2.6              Literacy, numeracy and digital are also mandatory cross-curricular skills; they are essential building blocks that underpin all learning. We see developing these skills as particularly important for disadvantaged learners, and consideration has been given across our literacy, numeracy and digital programmes on maximising the impact and benefits for these learners.

2.7              In addition, under the CfW careers and work-related experiences is a cross-cutting theme starting from age 3. Schools must ensure this theme is considered across the breadth of learning within each curriculum Area. Learners need work related experiences to develop knowledge of the breadth of opportunities available to them throughout their lives.

2.8              The Areas and statements of what matters, alongside other mandatory elements, give practitioners a starting point for developing their school curriculum. The ongoing development of a purpose-driven curriculum structured in this way requires a more holistic process of curriculum construction. Using the statements of what matters to underpin learning helps develop a coherent understanding of a range of information, making connections between different learning, as well as providing a common focus for the whole 3 to 16 continuum.

 

The four purposes and learner progression

2.9              The CfW defines a school’s curriculum for 3 to 16 year olds as everything a learner experiences in pursuit of the four purposes (this includes assessment arrangements). Ultimately, it should support all learners to become:

2.10              The four purposes (with their underpinning characteristics and integral skills) focus teachers and learners on what is needed to progress. We see progression as the process of building on and improving knowledge and skills over time (rather than coverage of specific topics or content at particular ages or stages). This focuses understanding on what progress looks like in a given discipline and how learners can be supported to deepen and broaden their knowledge and understanding, skills and capacities, and attributes and dispositions. This is key to progression into different pathways beyond school, including as yet unknown opportunities that arise through green and digital economies. The mandatory Progression Code sets out how all schools’ curricula must make provision for learners to progress.

2.11              Building on the ‘pioneer’ approach that placed practitioners at the heart of national CfW framework development, recent research notes that schools are increasingly responding to the call to work together in local clusters to support curriculum approaches. Cluster work between secondary schools and their feeder primaries is being used to support progression planning; to ensure continuity in curriculum planning; and to develop a shared understanding of progression. That shared understanding means schools working internally and with others on joint expectations for how learners should progress (particularly at transition points). It looks at how knowledge, skills and experiences contribute to coherent progression and ensuring sufficient pace and challenge in expectations. Schools are required to develop and maintain a shared understanding of progression and to outline details in a plan.

2.12              The co-construction approach through cluster working also seems to be playing an important role in helping schools develop joint approaches and allay uncertainty they previously felt. We see cluster working as an important requirement for successful and consistent curriculum realisation, so this is an important step. 

 

Assessment

2.13              The purpose of assessment is formative: to support every learner to progress. Practitioners can use a range of methods to assess learner progression, ensuring they develop a holistic picture of the learner - their strengths, areas for improvement and the support and challenge needed to take their learning forward.

2.14              Personalised assessments in numeracy and reading are mandatory for learners in years 2 to 9 and are flexible tools for practitioners to integrate with other approaches when assessing skills and progress in reading and numeracy. Their primary purpose, as one of a range of assessment approaches available to practitioners, is to enable them to assess how their learners’ reading and numeracy skills are developing and to use the assessment outcomes to inform their teaching and progression planning. Unlike a ‘one size fits all’ test for each curriculum year, the personalised assessments provide a tailored experience for each learner and adjust in response to their answers to provide easier or more challenging questions, through an online platform. They are in no way intended to be used for accountability purposes at any level.

2.15              Early insights research found new approaches to assessment in development in schools, with increased focus on formative, day-by-day approaches. Both primary and secondary leaders reported a deliberate shift towards assessment for learning and embedding it among all staff. Many noted awareness of the value of assessment for learning, but that the CfW was a catalyst in bringing about change.

2.16              Research also highlights reductions in the volume of formal assessment during the year, though schools continue to use national personalised assessments to gauge reading and numeracy progress. Some senior leaders emphasised their continued importance in benchmarking learner attainment. In other cases, personalised assessments are used to map what has, or has not, been covered sufficiently, rather than to understand standards or learner levels. This reflects a welcome shift expressed by a number of primary and secondary schools to using assessment information to support and improve curriculum planning and provision.

2.17              Regarding attainment by year 11, we remain clear that qualifications are an important part of this. As the Minister for Education and Welsh Language set out in March, the CfW is designed to ensure learners leave compulsory education with the knowledge, skills and experiences they need to succeed. It is crucial that learners’ achievements and progression be recognised, and while qualifications will be an important part of learning, they won’t capture everything that learners will gain from the new curriculum (for example, learning within mandatory elements of the curriculum, such as: Relationships and Sexuality Education, Religion, Value and Ethics, and Careers and Work-Related Experiences).

2.18              To support this vision, and to help learners identify their strengths and interests in order to make informed choices about their futures, we are developing proposals for a learner portfolio. This would provide a digital platform to support learner self-reflection and planning for next steps. We will develop our approach to this through close engagement with education partners, employers and further and higher education institutions; and evolve our existing Welsh Baccalaureate to ensure it promotes and reflects broad and balanced learning.    

2.19              As part of our wider approach to 14-16 learning, GCSEs and other qualifications are being revised to ensure alignment with the CfW. Through their ‘Qualified for the Future’ programme, our independent regulator, Qualifications Wales, is continuing to develop new qualifications that support the CfW. On 28 June Qualifications Wales published key decisions regarding made-for-Wales GCSEs, providing clarity across the system and supporting progression to a range of next steps institutions in Wales, across the UK, and globally. Awarding bodies are now taking forward the development of the new qualifications. The programme remains on track for first teaching to commence for existing, reformed subjects in September 2025 with first awards in summer 2027, in line with CfW roll out in secondary schools.

2.20              Qualifications Wales’ Full 14 – 16 Qualifications Offer consultation closed on the 14 June. It detailed their initial thinking in respect of the non-GCSE qualifications which will complement the new suite of GCSEs. This Full Offer element will be available to learners for first teaching in 2027 (first award 2029). It is designed to ensure inclusive, accessible qualifications for all learners, while achieving a sustainable, bilingual offer that provides learners with clear progression pathways.

2.21              Qualifications Wales will continue to review and reflect on different assessment methodologies in qualifications, linked to the need to keep qualifications modern and relevant. This is particularly relevant in the context of developments in artificial intelligence. We also remain interested in approaches in other education jurisdictions, including developments with Greater Manchester’s MBacc and the International Baccalaureate.

 

Professional learning

2.22              Developing a high-quality education profession supported through professional learning remains central to the realisation of our vision for education. The National Professional Learning Entitlement, launched in September 2022, is key to ensuring all practitioners have access to quality professional learning to enable high standards and aspirations for all. With nearly £36 million invested in the delivery of professional learning opportunities for education practitioners during 2023-24 alone, the national professional learning offer is wide and varied. This includes £12 million being allocated directly to schools, which builds on the £55 million in the professional learning grant awarded over the last five years. We also provide an additional INSET day per year until 2025. This additional INSET is dedicated to CfW professional learning.

 

Timeline and progress

2.23              Progress on curriculum implementation is reported on annually, the latest published on 5 July. In this first year of implementation, all funded non-maintained nursery settings, primary schools and around half of secondaries are operating under the CfW framework. The CfW is rolling out year on year until Year 11 in 2026/27. However, the CfW emphasises the importance of schools and settings continuing to trial, evaluate and improve their curricula as part of continuous improvement.

2.24              The independent inspectorate in Wales, Estyn, noted challenges caused by the COVID-19 pandemic has meant progress on CfW implementation has been variable. More recent early insights research also shows variation in the pace of progress. Those school leaders that have been planning for three or four years are more confident than those who felt they were at an earlier stage of implementation.

2.25              Despite this, evidence indicates tangible progress. Senior leaders report broad contentment with the progress their school is making. They report confidence in, and ownership of, CfW design and delivery is rising in practitioners. It is encouraging that early feedback flags an increased focus on pedagogy and on greater levels of collaboration within and across schools as a consequence of reform. The research also found a greater practitioner autonomy emerging as they increasingly take responsibility and ownership of curriculum implementation, with growing recognition that curriculum reform is long-term process rather than a once and done event.

 

  1. School Improvement

3.1              We are clear that all aspects of the education system need to align with and fully support CfW realisation. As part of system-wide reform, in June 2022 we published school improvement guidance to introduce a new way for the education system to work together to support schools in their improvement, build confidence in the system and retain a clear focus on supporting all learners to progress. This guidance set out eight contributory factors to support effective curriculum realisation in schools: these provide a consistent policy framework for all schools and school improvement services to ensure that learners and learning remain at the centre of our education reform. We will be consulting on the guidance in the coming year, with a view to making it statutory in 2024.

3.2              Estyn has a key role to play in supporting this vision. Their new approach to inspection includes a move away from summative judgements in inspection reports to focus more on strengths and areas for improvement. There is also greater flexibility in the framework to consider the context of each school. Professional dialogue is now at the heart of the inspection process.

3.3              Schools now have a central role in driving their improvements through self-evaluation, performance management and improvement planning. We promote a self-improving culture which requires ongoing discussions between local authorities, regional consortia and schools. Collaboration within and between school clusters in Wales is at the heart of providing stretch and improving standards and our priority is to ensure sufficient time and space for schools to engage in this professional dialogue. Guidance sets out the roles and responsibilities of all parties involved in assisting the improvement of schools; and is clear that school development priorities should be driven by robust self-evaluation processes that consider a wide range of information about a school.

 

Interim KS4 Measures

3.4              Qualifications outcomes continue to form a key part of a secondary school’s evaluation and improvement considerations. However, effective evaluation, improvement and accountability needs to be supported by a broader range of information. Schools are using the School Improvement Guidance as the starting point for how they use information to support their own improvement and set this information within their specific context. They already possess a broad range of evidence – measures based on qualification outcomes, where relevant, is just one part of that. Guidance is clear on how this information should and shouldn’t be used. It should not be used in isolation to judge or compare schools but should form part of their self-evaluation and improvement processes.

3.5              This year we have restarted reporting Key Stage 4 outcomes at school level using the approach adopted in 2019 (including counting only first exam entries). This is for an interim period as we develop a neutral approach to the information system. During this interim period outcomes will report in the points score format, including the ‘Capped 9’, broken down by gender and free school meal eligibility. These arrangements will remain in place until we begin to introduce our new approach to school information.

3.6              Future arrangements for the use of qualifications data is a key strand of the ongoing development of the information ecosystem. We continue to work with practitioners and leaders to form proposals and share with the sector so we can establish new arrangements by summer 2025 in readiness for the new GCSEs.

 

Evaluation and monitoring

3.7              In 2022, we published the Government Social Research report Scoping study for the evaluation of the curriculum and assessment reforms in Wales, with findings on the evaluation of curriculum reform. It set out key questions to be answered and to examine the extent to which they are having the desired impact for all learners. It assessed the usefulness of existing data to answer these questions and proposed additional studies to fill gaps. Our resulting Evaluation Plan was published on 5 July.

3.8              In addition to the early insights research referenced above, and in line with Successful Futures, we are embarked on development work for an ambitious programme of national monitoring of learners’ achievement. This will involve rolling assessments of samples of learners to build a picture of attainment and national progress over time. Importantly, by using a national sample of learners rather than universal assessment, we hope to minimise burdens on schools while providing the information we need to understand how the CfW is supporting raising standards, and progress in tackling the impact of poverty on learners’ achievement. This is needed to support national improvement in education in a way that is compatible with the CfW and preserves schools’ autonomy and agency in curriculum design. It will not be linked to school performance measures.

3.9              We are also commissioning a multi-year full formative evaluation, which includes research with practitioners, learners and their families. This aims to achieve sufficient sample sizes to allow investigation of the experiences of different groups of learners, to assess the extent reforms are working for all learners irrespective of their background or ability. We also plan to embed deep dives in a number of curriculum aspects to allow a more detailed understanding of specific areas, as well as across the breadth of the reforms.

3.10              Close working with Estyn, regional consortia, partnerships and local authorities also includes regular system feedback. Earlier this year Estyn published information on progress in their Annual Report. We also supplement this information with practitioner input through the National Network, and the work of support programmes, such as Camau i’r Dyfodol.

 

Parental and community engagement

3.11              The CfW framework is clear on the importance of parental and community engagement in the process of curriculum design. Statutory guidance asks schools to give local communities an opportunity to contribute to curriculum design to foster positive relationships, enable curricula to be relevant to local needs and contexts, and open up opportunities for local, enriching learning experiences with stakeholders. Related to this Professor Charlotte Williams’ Black, Asian and Minority Ethnic communities, contributions and cynefin in the curriculum working group report identified ways to improve the teaching of themes and experiences relating to Black, Asian and Minority Ethnic communities across all parts of the CfW. The explicit teaching of Black, Asian and Minority Ethnic histories, alongside Welsh history, supports all learners to make connections with their home and community, foster a sense of belonging and identity as citizens of Wales. The breadth of the recommendations across the education system contribute to a wider societal change and ambition for Wales to be anti-racist by 2030. Successful CfW implementation is contributing to this goal.

3.12              In addition, the Supporting learner progression: assessment section of CfW guidance sets out statutory requirements for sharing information with parents and carers about their child’s progress on a termly basis, and an annual summary of individual learner information.

3.13              Early insights research reported schools using a variety of approaches to disseminate curriculum information to parents and carers. Some expressed caution highlighting a range of methods used to avoid overwhelming them with too much information. Schools are using mandatory curriculum summaries to provide advice on how the CfW is organised and an overview of approaches to learner progression. Research also shows that schools are changing how they share information on progress with parents and carers, and senior leaders reported a welcome shift towards more personalised contact with them regarding individual learners.

Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi: Addysg i’r Rhai 11-16 Oed

Papur Tystiolaeth Llywodraeth Cymru - Gorffennaf 2023

  1. Cyflwyniad

1.1              Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth a myfyrdodau ynghylch dull a phrofiadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cwricwlwm i roi cymorth gydag ymchwiliad y Pwyllgor.

1.2              Ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru a’r proffesiwn addysg, rydym wedi cychwyn ar broses ddiwygio hirdymor, gyda’n cwricwlwm trawsnewidiol, y Cwricwlwm i Gymru, yn greiddiol iddi. Tra bo esblygiad y cwricwlwm a threfniadau asesu’n darparu’r sbardun ar gyfer ffocws o’r newydd ar bwrpas addysg yng Nghymru, mae’r papur hwn hefyd yn crynhoi sut y tanategir hyn gan broses gyfannol i ddiwygio addysg, sut yr ydym yn ei gwneud yn bosibl i alluogedd y proffesiwn addysg fod yn ganolog i ddatblygu’r cwricwlwm, a sut yr ydym yn sicrhau bod ein diwygiadau’n dal i ganolbwyntio ar anghenion yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru fel rhan o Genhadaeth ein Cenedl i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.

 

  1. Cwricwlwm i Gymru

Cefndir

2.1              Cyhoeddwyd canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020, yn dilyn proses helaeth o ddatblygu ar y cyd gyda’r proffesiwn addysgu ac amrywiaeth eang o arbenigedd addysgol. Fe’i dyluniwyd fel datganiad eglur o’r hyn sy’n bwysig yn ein tyb ni mewn addysg eang a chytbwys. Nod y Cwricwlwm i Gymru yw ennyn brwdfrydedd plant a phobl ifanc ynglŷn â dysgu mewn ffyrdd sy’n cynnwys cyfraniad hollbwysig dysgu seiliedig-ar-ddisgyblaeth a’r wybodaeth, yn ogystal â’r sgiliau a’r agweddau meddwl, sy’n eu helpu i ddiwallu anghenion heddiw a mynd i’r afael â heriau yfory.

2.2              Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddylunio fel fframwaith cenedlaethol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm eu hysgol: gan eu galluogi i fod yn hyblyg i ddiwallu anghenion penodol eu dysgwyr yn eu cyd-destunau a’u cymunedau hwy. Mae cefnogi galluogedd athrawon a grymuso ysgolion yn y ffordd hon hefyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi lle a chapasiti’r proffesiwn addysgu, gydag effeithiau cadarnhaol o ganlyniad ar les athrawon. Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n newid mewn diwylliant, ond mae’n nodi fframwaith eglur iawn a ddatblygwyd gan ysgolion, gyda gofynion eglur y bydd angen i ysgolion weithredu’n unol â hwy.

2.3              Hefyd, mae’r Cwricwlwm i Gymru’n grymuso ysgolion i ystyried effeithiau addysgol anfantais mewn modd rhagweithiol fel rhan annatod o ddyluniad eu cwricwlwm, gan gynnwys codi disgwyliadau a mynd i’r afael â bylchau yng nghynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr. Ar y dechrau un, mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru’n herio ysgolion i ystyried sut y mae eu cwricwlwm yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a gwahanol fylchau mewn cyrhaeddiad.

2.4              O fewn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) mandadol wedi’u trefnu trwy gyfanswm o 27 oddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ mandadol, sy’n crynhoi’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau pwysicaf ac yn cynrychioli’r hyn y mae arnom ei eisiau ar gyfer yr holl ddysgwyr 16 oed a addysgwyd yng Nghymru.

2.5              Mae’r dull hwn yn nodi profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn genedlaethol i helpu i leihau amrywiad yn nyluniad y cwricwlwm ar lefel ysgolion, gan hefyd ddarparu ar gyfer hyblygrwydd lleol. Mae'r broses o archwilio'r datganiadau hyn ac ailedrych arnynt trwy gydol y continwwm 3-16 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth fwyfwy dwfn dros amser ac i gamu ymlaen at ddealltwriaeth fwy soffistigedig ym mhob Maes. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i werthfawrogi eu dysgu, yn hytrach na dim ond gallu galw ffeithiau ynysig i gof heb gyd-destun.

2.6              Mae llythrennedd, rhifedd a digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol hefyd; maent yn gonglfeini hanfodol sy’n tanategu’r holl ddysgu. Rydym ni o’r farn bod datblygu’r sgiliau hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer dysgwyr difreintiedig, ac fe roddwyd ystyriaeth ar draws ein rhaglenni llythrennedd, rhifedd a digidol i gynyddu’r effaith a'r manteision i’r eithaf ar gyfer y dysgwyr hyn.

2.7              Hefyd, dan y Cwricwlwm i Gymru mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn thema drawsbynciol sy’n dechrau o 3 oed. Rhaid i ysgolion sicrhau bod y thema hon yn cael ei hystyried ar draws ehangder y dysgu ym mhob Maes o fewn y cwricwlwm. Mae ar ddysgwyr angen profiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith i ddatblygu gwybodaeth am ehangder y cyfleoedd sydd ar gael iddynt trwy gydol eu bywydau.

2.8              Mae’r Meysydd a’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, ochr yn ochr ag elfennau mandadol eraill, yn rhoi man cychwyn i ymarferwyr ar gyfer datblygu cwricwlwm eu hysgol. Mae datblygiad parhaus cwricwlwm seiliedig-ar-ddibenion sydd wedi’i strwythuro yn y ffordd yma’n galw am broses fwy gyfannol o lunio’r cwricwlwm. Mae defnyddio’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i danategu’r dysgu’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth gydlynus am amrywiaeth o wybodaeth, gan greu cysylltiadau rhwng pethau gwahanol a ddysgwyd, yn ogystal â darparu ffocws cyffredin ar gyfer yr holl gontinwwm o 3 i 16.

 

Y pedwar diben a chynnydd dysgwyr

2.9              Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n diffinio cwricwlwm ysgol ar gyfer y rhai 3 i 16 oed fel popeth y mae dysgwr yn ei brofi wrth fynd ar drywydd y pedwar diben (mae hyn yn cynnwys trefniadau asesu). Yn y pen draw, dylai gynorthwyo’r holl ddysgwyr i ddod:

2.10              Mae’r pedwar diben (gyda’u nodweddion tanategol a sgiliau sy’n hanfodol yn sicrhau bod athrawon a dysgwyr yn canolbwyntio ar yr hyn y mae ei angen i wneud cynnydd. I ni, cynnydd yw’r broses o adeiladu ar wybodaeth a sgiliau dros amser a’u gwella (yn hytrach na rhoi sylw i destunau neu gynnwys penodol ar oedrannau neu gamau penodol). Mae hyn yn canolbwyntio dealltwriaeth ar sut y mae cynnydd yn edrych mewn disgyblaeth benodol a sut y gellir cynorthwyo dysgwyr i ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau meddwl. Mae hyn yn allweddol i symud ymlaen i lwybrau gwahanol y tu hwnt i’r ysgol, gan gynnwys cyfleoedd nad ydynt yn hysbys eto a fydd yn codi trwy economïau gwyrdd a digidol. Mae’r Cod Cynnydd mandadol yn nodi sut y mae’n rhaid i gwricwla’r holl ysgolion wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddysgwyr.

2.11              Gan adeiladu ar y dull ‘arloesi' a wnaeth ymarferwyr yn ganolog i ddatblygu fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru, mae ymchwil ddiweddar yn nodi bod ysgolion yn ymateb yn fwyfwy i’r alwad i gydweithio mewn clystyrau lleol i gefnogi dulliau o gynllunio’r cwricwlwm. Mae gwaith clwstwr rhwng ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo’n cael ei ddefnyddio i roi cymorth i gynllunio cynnydd; i sicrhau parhad o ran cynllunio’r cwricwlwm; ac i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin am gynnydd. Mae’r ddealltwriaeth gyffredin honno’n golygu bod ysgolion yn gweithio’n fewnol a chydag eraill ar ddisgwyliadau ar y cyd ar gyfer sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd (yn enwedig ar adegau pontio). Mae’n ystyried sut y mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau’n cyfrannu at gynnydd cydlynus a sicrhau bod disgwyliadau’n briodol o ran cyflymder a her. Mae’n ofynnol i ysgolion ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin am gynnydd a hefyd amlinellu’r manylion mewn cynllun.

2.12              Mae’r dull datblygu ar y cyd trwy weithio mewn clwstwr i’w weld fel pe bai’n bwysig hefyd o ran helpu ysgolion i ddatblygu dulliau ar y cyd a lleddfu ansicrwydd yr oeddent yn ei deimlo’n flaenorol. Rydym ni’n ystyried bod gweithio mewn clwstwr yn ofyniad pwysig ar gyfer gwireddu’r cwricwlwm yn llwyddiannus ac yn gyson, felly mae hwn yn gam pwysig

 

Asesu

2.13              Mae pwrpas asesu’n ffurfiannol: cynorthwyo pob dysgwr i wneud cynnydd. Gall ymarferwyr ddefnyddio ystod o ddulliau i asesu cynnydd dysgwyr, gan sicrhau eu bod yn datblygu darlun cyfannol o’r dysgwr – ei gryfderau, meysydd ar gyfer gwella a’r cymorth a’r her y mae eu hangen i symud eu dysgu ymlaen.

2.14              Mae asesiadau personol mewn rhifedd a darllen yn fandadol ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 2 i 9 ac yn offer hyblyg i ymarferwyr eu hintegreiddio â dulliau eraill wrth asesu sgiliau a chynnydd mewn darllen a rhifedd. Eu prif bwrpas, fel un o ystod o ddulliau asesu sydd ar gael i ymarferwyr, yw eu galluogi i asesu sut y mae sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr yn datblygu a defnyddio’r deilliannau asesu i oleuo’u gwaith addysgu a’u gwaith cynllunio cynnydd. Yn wahanol i brofion sydd yr un fath i bawb ar gyfer pob blwyddyn gwricwlwm, mae’r asesiadau personol yn darparu profiad wedi’i deilwra i bob dysgwr ac yn addasu mewn ymateb i’w hatebion i ddarparu cwestiynau haws neu anos, trwy blatfform ar-lein. Nid ydynt wedi’u bwriadu mewn unrhyw ffordd i fod at ddibenion atebolrwydd ar unrhyw lefel.

2.15              Canfu ymchwil sy’n rhoi mewnwelediadau cynnar fod dulliau asesu newydd yn cael eu datblygu mewn ysgolion, gyda mwy o ffocws ar ddulliau ffurfiannol, o ddydd i ddydd. Dywedodd arweinwyr cynradd ac uwchradd fod newid bwriadol yn digwydd tuag at asesu ar gyfer dysgu a’i sefydlu ymhlith yr holl staff. Nododd llawer ymwybyddiaeth o werth asesu ar gyfer dysgu, ond bod y Cwricwlwm i Gymru’n sbardun i achosi newid.

2.16              Mae ymchwil hefyd yn amlygu bod llai o asesu ffurfiol yn digwydd yn ystod y flwyddyn, er bod ysgolion yn parhau i ddefnyddio asesiadau personol cenedlaethol i bwyso a mesur y cynnydd mewn darllen a rhifedd. Fe wnaeth rhai uwch arweinwyr bwysleisio’u pwysigrwydd parhaus i feincnodi cyrhaeddiad dysgwyr. Mewn achosion eraill, defnyddir asesiadau personol i fapio’r hyn sydd wedi cael, neu sydd heb gael, digon o sylw, yn hytrach nag i ddeall safonau neu lefelau dysgwyr. Mae hyn yn adlewyrchu newid i’w groesawu a fynegwyd gan nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd i ddefnyddio gwybodaeth asesu i gefnogi a gwella’r broses o gynllunio a darparu’r cwricwlwm.

2.17              O ran cyrhaeddiad gan flwyddyn 11, mae’n dal i fod yn glir i ni bod cymwysterau’n rhan bwysig o hyn. Fel a nodwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Mawrth, mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i fwriadu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg orfodol gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau y mae eu hangen arnynt i lwyddo. Mae’n hanfodol bod cyflawniadau a chynnydd dysgwyr yn cael eu cydnabod, ac er y bydd cymwysterau’n rhan bwysig o ddysgu, ni fyddant yn cwmpasu popeth y bydd dysgwyr yn ei gael o’r cwricwlwm newydd (er enghraifft, dysgu o fewn elfennau mandadol y cwricwlwm, megis: Addysg Rhyw a Chydberthynas, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n gysylltiedig â Byd Gwaith).

2.18              I ategu’r weledigaeth hon, ac i helpu dysgwyr i adnabod eu cryfderau a’u diddordebau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch eu dyfodol, rydym yn datblygu cynigion ar gyfer portffolio dysgwr. Byddai hwn yn darparu platfform digidol i roi cymorth i ddysgwyr hunan-fyfyrio a chynllunio ar gyfer y camau nesaf. Byddwn yn datblygu ein dull o ymdrin â hyn trwy ymgysylltu agos â phartneriaid addysg, cyflogwyr a sefydliadau addysg bellach ac uwch; ac esblygu ein cymhwyster Bagloriaeth Cymru presennol i sicrhau ei fod yn hybu ac yn adlewyrchu dysgu eang a chytbwys.    

2.19              Fel rhan o’n dull ehangach lle mae dysgu 14-16 yn y cwestiwn, mae TGAU a chymwysterau eraill yn cael eu diwygio i sicrhau eu bod yn gyson â’r Cwricwlwm i Gymru. Trwy eu rhaglen ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ mae ein corff rheoleiddio annibynnol, Cymwysterau Cymru, yn parhau i ddatblygu cymwysterau newydd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru. Ar 28 Mehefin fe gyhoeddodd Cymwysterau Cymru benderfyniadau allweddol ynghylch TGAU Gwneud-i-Gymru, gan ddarparu eglurder ar draws y system a chefnogi symudiad ymlaen i ystod o sefydliadau camau nesaf yng Nghymru, ledled y DU ac yn fyd-eang. Mae cyrff dyfarnu wrthi’n datblygu’r cymwysterau newydd yn awr. Mae’r rhaglen yn dal i fod ar y trywydd iawn i’r pynciau presennol, diwygiedig gael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025 gyda’r dyfarniadau cyntaf yn haf 2027, yn unol â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion uwchradd.

2.20              Fe gaeodd ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 – 16 ar 14 Mehefin. Roedd yn nodi eu syniadau cychwynnol mewn perthynas â’r cymwysterau heblaw TGAU a fydd yn cyd-fynd â’r gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Bydd yr elfen Cynnig Llawn yma ar gael i ddysgwyr ar gyfer addysgu am y tro cyntaf yn 2027 (dyfarnu am y tro cyntaf yn 2029). Mae wedi’i bwriadu i sicrhau cymwysterau cynhwysol, hygyrch i’r holl ddysgwyr, gan gyflawni cynnig cynaliadwy, dwyieithog sy’n darparu llwybrau cynnydd eglur ar gyfer dysgwyr.

2.21              Bydd Cymwysterau Cymru’n parhau i adolygu a myfyrio ynghylch gwahanol fethodolegau asesu mewn cymwysterau, yn gysylltiedig â’r angen i gadw cymwysterau’n fodern ac yn berthnasol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial. Rydym hefyd yn dal i fod â diddordeb yn y dulliau mewn awdurdodaethau addysg eraill, gan gynnwys datblygiadau gydag MBacc Manceinion Fwyaf a’r Fagloriaeth Ryngwladol.

 

Dysgu proffesiynol

2.22              Mae datblygu proffesiwn addysg o safon uchel a gefnogir trwy ddysgu proffesiynol yn dal i fod yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg. Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, a lansiwyd ym mis Medi 2022, yn allweddol i sicrhau bod gan yr holl ymarferwyr fynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd i alluogi safonau a dyheadau uchel ar gyfer pawb. Gyda bron i £36 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg yn ystod 2023-24 yn unig, mae’r cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol yn eang ac amrywiol. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £12 miliwn yn uniongyrchol i ysgolion, sy’n adeiladu ar y £55 miliwn yn y grant dysgu proffesiynol a ddyfarnwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf. Rydym hefyd yn darparu diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn tan 2025. Mae’r diwrnod HMS ychwanegol hwn wedi’i neilltuo i ddysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Llinell amser a chynnydd

2.23              Adroddir yn flynyddol ar gynnydd o ran rhoi’r cwricwlwm ar waith, ac fe gyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar 5 Gorffennaf. Yn y flwyddyn gyntaf hon o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, mae’r holl leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, ysgolion cynradd ac oddeutu hanner yr ysgolion uwchradd yn gweithredu dan ei fframwaith. Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n cael ei gyflwyno fesul blwyddyn tan Flwyddyn 11 yn 2026/27. Fodd bynnag, mae’r Cwricwlwm i Gymru’n pwysleisio’i bod yn bwysig bod ysgolion a lleoliadau’n parhau i dreialu, gwerthuso a gwella’u cwricwla fel rhan o ddatblygu’n barhaus.

2.24              Fe wnaeth yr arolygiaeth annibynnol yng Nghymru, Estyn, nodi bod heriau a achoswyd gan bandemig COVID-19 wedi golygu mai amrywiol fu’r cynnydd o ran rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn fwy diweddar mae ymchwil sy’n rhoi mewnwelediadau cynnar hefyd yn dangos bod cyflymder y cynnydd yn amrywio. Mae’r arweinwyr ysgolion hynny sydd wedi bod yn cynllunio am dair neu bedair blynedd yn fwy hyderus na’r rhai a oedd yn teimlo eu bod ar gam cynharach o ran rhoi’r cwricwlwm ar waith.

2.25              Er gwaethaf hyn, mae’r dystiolaeth yn dynodi cynnydd pendant. Mae uwch arweinwyr yn dweud eu bod yn fodlon at ei gilydd ar y cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud. Maent yn dweud bod hyder yn nyluniad ac mewn darparu’r Cwricwlwm i Gymru a pherchnogaeth ar hynny’n cynyddu ymhlith ymarferwyr. Mae’n galonogol bod adborth cynnar yn amlygu mwy o ffocws ar addysgeg ac ar lefelau uwch o gydweithio o fewn ac ar draws ysgolion o ganlyniad i ddiwygio’r cwricwlwm. Canfu’r ymchwil hefyd fod mwy o awtonomiaeth gan ymarferwyr yn dod i’r amlwg wrth iddynt yn gynyddol gymryd cyfrifoldeb am roi’r cwricwlwm ar waith a pherchnogi hynny, gyda chydnabyddiaeth gynyddol bod diwygio’r cwricwlwm yn broses hirdymor yn hytrach na digwyddiad unwaith-a-dyna-ni.

 

  1. Gwella Ysgolion

3.1              Mae’n glir i ni bod angen i bob agwedd ar y system addysg fod yn gyson â gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru ac ategu hynny’n llawn. Fel rhan o ddiwygio’r system gyfan, ym mis Mehefin 2022 fe gyhoeddom ni ganllawiau gwella ysgolion i gyflwyno ffordd newydd i’r system addysg gydweithio i gynorthwyo ysgolion i wella, meithrin hyder yn y system a chadw ffocws clir ar gynorthwyo’r holl ddysgwyr i wneud cynnydd. Roedd y canllawiau hyn yn nodi wyth ffactor cyfrannol i roi cymorth i wireddu’r cwricwlwm yn effeithiol mewn ysgolion: mae’r rhain yn darparu fframwaith polisi cyson ar gyfer yr holl ysgolion a gwasanaethau gwella ysgolion i sicrhau bod dysgwyr a dysgu’n dal i fod yn ganolog i’n rhaglen diwygio addysg. Byddwn yn ymgynghori ynghylch y canllawiau yn y flwyddyn sydd i ddod, gyda golwg ar eu gwneud yn statudol yn 2024.

3.2              Mae gan Estyn rôl allweddol o ran cefnogi’r weledigaeth hon. Mae eu dull arolygu newydd yn cynnwys cefnu ar farnau crynodol mewn adroddiadau arolygu i ganolbwyntio’n fwy ar gryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Ceir mwy o hyblygrwydd yn y fframwaith hefyd i ystyried cyd-destun pob ysgol. Mae deialog broffesiynol bellach yn ganolog i’r broses arolygu.

3.3              Mae gan ysgolion bellach rôl ganolog o ran llywio’u gwelliannau trwy hunanwerthuso, rheoli perfformiad a chynllunio gwelliant. Rydym yn hybu diwylliant hunanwella sy’n galw am drafodaethau parhaus rhwng awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion. Mae cydweithio o fewn a rhwng clystyrau ysgolion yng Nghymru’n ganolog i ddarparu her ymestynnol a gwella safonau a’n blaenoriaeth ni yw sicrhau digon o amser a lle i ysgolion ymgysylltu â’r ddeialog broffesiynol hon. Mae canllawiau’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r holl bartïon sy’n rhan o gynorthwyo ysgolion i wella; ac maent yn nodi’n glir y dylai blaenoriaethau datblygu ysgolion gael eu llywio gan brosesau hunanwerthuso cadarn sy’n ystyried amrywiaeth eang o wybodaeth am ysgol.

 

Mesurau Interim ar gyfer CA4

3.4              Mae deilliannau ar ffurf cymwysterau’n dal i fod yn rhan allweddol o ystyriaethau gwerthuso a gwella ysgol gynradd. Fodd bynnag, mae angen i werthuso, gwella ac atebolrwydd effeithiol gael eu hategu gan ystod ehangach o wybodaeth. Mae ysgolion yn defnyddio’r Canllawiau Gwella Ysgolion fel y man cychwyn ar gyfer sut y maent yn defnyddio gwybodaeth i roi cymorth iddynt hwy eu hunain wella ac yn gosod yr wybodaeth hon o fewn eu cyd-destun penodol hwy. Maent eisoes yn meddu ar dystiolaeth eang – dim ond un rhan o hynny, lle y bônt yn berthnasol, yw mesurau sy’n seiliedig ar ddeilliannau ar ffurf cymwysterau. Mae’r canllawiau’n glir ynghylch sut y dylid a sut na ddylid defnyddio’r wybodaeth hon. Ni ddylid ei defnyddio ar wahân i farnu na chymharu ysgolion ond dylai fod yn rhan o’u prosesau hunanwerthuso a gwella.

3.5              Eleni rydym wedi ailddechrau adrodd ar ddeilliannau Cyfnod Allweddol 4 ar lefel ysgolion gan ddefnyddio’r dull a fabwysiadwyd yn 2019 (gan gynnwys cyfrif cofrestriadau cyntaf ar gyfer arholiadau yn unig). Mae hyn yn digwydd am gyfnod interim wrth i ni ddatblygu dull niwtral o weithredu’r system wybodaeth. Yn ystod y cyfnod interim hwn byddwn yn adrodd ar ddeilliannau yn y fformat sgôr pwyntiau, gan gynnwys y sgôr pwyntiau ‘Capio 9’, wedi’i rhannu yn ôl rhywedd a chymhwystra i gael prydau ysgol am ddim. Bydd y trefniadau hyn yn dal i fod ar waith nes ein bod yn dechrau cyflwyno ein dull newydd o ymdrin â gwybodaeth am ysgolion.

3.6              Mae trefniadau yn y dyfodol ar gyfer defnyddio data cymwysterau’n un o’r elfennau allweddol o ddatblygiad parhaus yr ecosystem wybodaeth. Rydym yn parhau i weithio gydag ymarferwyr ac arweinwyr i lunio cynigion a’u rhannu gyda’r sector er mwyn i ni allu sefydlu trefniadau newydd erbyn haf 2025 yn barod ar gyfer y TGAU newydd.

 

Gwerthuso a monitro

3.7              Yn 2022, fe gyhoeddom ni’r adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso diwygiadau i'r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru, gyda chanfyddiadau’r gwerthusiad o ddiwygio’r cwricwlwm. Roedd yn nodi cwestiynau allweddol i gael eu hateb ac i archwilio i ba raddau y maent yn cael yr effaith a ddymunir ar gyfer yr holl ddysgwyr. Roedd yn asesu defnyddioldeb data presennol i ateb y cwestiynau hyn ac yn cynnig astudiaethau ychwanegol i lenwi bylchau. Cyhoeddwyd ein Cynllun Gwerthuso a ddeilliodd o hyn ar 5 Gorffennaf.

3.8              Yn ogystal â’r ymchwil sy’n rhoi mewnwelediadau cynnar y cyfeiriwyd ato uchod, ac yn unol â Dyfodol Llwyddiannus, rydym wedi dechrau ar waith datblygu ar gyfer rhaglen uchelgeisiol o waith cenedlaethol i fonitro cyflawniad dysgwyr. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau treigl o samplau o ddysgwyr i ddatblygu darlun o gyrhaeddiad a chynnydd cenedlaethol dros amser. Yn bwysig, trwy ddefnyddio sampl genedlaethol o ddysgwyr yn hytrach nag asesiad cyffredinol, rydym yn gobeithio lleihau i’r eithaf y beichiau ar ysgolion wrth ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen arnom i ddeall sut y mae’r Cwricwlwm i Gymru o gymorth i godi safonau, ac i wneud cynnydd o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad dysgwyr. Mae angen hyn i gefnogi gwelliant cenedlaethol mewn addysg mewn ffordd sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n gwarchod awtonomiaeth a galluogedd ysgolion mewn perthynas â dylunio’r cwricwlwm. Ni fydd yn gysylltiedig â mesurau perfformiad ysgolion.

3.9              Rydym hefyd yn comisiynu gwerthusiad ffurfiannol llawn aml-flwyddyn, sy’n cynnwys ymchwil gydag ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd. Mae hwn yn amcanu at gyflawni meintiau samplau digonol i’w gwneud yn bosibl ymchwilio i brofiadau gwahanol grwpiau o ddysgwyr, i asesu i ba raddau y mae diwygiadau’n gweithio ar gyfer yr holl ddysgwyr ni waeth beth fo’u cefndir na’u gallu. Rydym hefyd yn bwriadu gwreiddio astudiaethau sy’n mynd at wraidd nifer o agweddau ar y cwricwlwm i’w gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth fwy manwl am feysydd penodol, yn ogystal ag ar draws ehangder y diwygiadau.

3.10              Mae cydweithio agos gydag Estyn, consortia rhanbarthol, partneriaethau ac awdurdodau lleol hefyd yn cynnwys adborth rheolaidd ar y system. Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Estyn wybodaeth am gynnydd yn eu Hadroddiad Blynyddol. Rydym hefyd yn ategu’r wybodaeth hon â mewnbwn gan ymarferwyr trwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol, a gwaith rhaglenni cymorth, megis Camau i’r Dyfodol.

 

Ymgysylltu â rhieni a chymunedau

3.11              Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru’n glir ynglŷn â phwysigrwydd ymgysylltu â rhieni a chymunedau wrth ddylunio’r cwricwlwm. Mae canllawiau statudol yn gofyn i ysgolion roi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at ddylunio’r cwricwlwm i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, galluogi cwricwla i fod yn berthnasol i anghenion a chyd-destunau lleol, ac agor cyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu lleol, cyfoethogol gyda rhanddeiliaid. Yn gysylltiedig â hyn, fe wnaeth adroddiad yr Athro Charlotte Williams, Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, adnabod ffyrdd o wella’r modd yr addysgir themâu a phrofiadau sy’n ymwneud â chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws pob rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae addysgu hanesion Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn benodol, ochr yn ochr â hanes Cymru, yn cynorthwyo’r holl ddysgwyr i greu cysylltiadau â’u cartref a’u cymuned, a meithrin ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth fel dinasyddion Cymru. Mae ehangder yr argymhellion ar draws y system addysg yn cyfrannu at newid cymdeithasol ehangach ac uchelgais i Gymru fod yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030. Mae rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn llwyddiannus yn cyfrannu at y nod yma.

3.12              Hefyd, mae’r adran Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru’n nodi gofynion statudol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am gynnydd eu plentyn yn dymhorol, a chrynodeb blynyddol o wybodaeth am ddysgwyr unigol.

3.13              Nododd yr ymchwil sy’n rhoi mewnwelediadau cynnar fod ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ledaenu gwybodaeth am y cwricwlwm ymhlith rhieni a gofalwyr. Mynegodd rhai bwyll gan amlygu ystod o ddulliau a ddefnyddir i osgoi eu gorlethu â gormod o wybodaeth. Mae ysgolion yn defnyddio crynodebau o’r cwricwlwm mandadol i roi cyngor ynghylch sut y caiff y Cwricwlwm i Gymru ei drefnu a throsolwg o ddulliau ar gyfer cynnydd dysgwyr. Dengys ymchwil hefyd fod ysgolion yn newid sut y maent yn rhannu gwybodaeth am gynnydd gyda rhieni a gofalwyr, a dywedodd uwch arweinwyr fod newid sydd i’w groesawu’n digwydd tuag at gyswllt mwy personol â hwy ynghylch dysgwyr unigol.

 

10 July 2023