Restricted: For Committee use onlyBRO0010

 

Written evidence submitted by the Welsh Language Commissioner

 

Ymgynghoriad - Dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Diolch yn fawr am y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad uchod. Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gyda’r nod o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae’r Mesur yn rhoi nifer o swyddogaethau rheoleiddio a phwerau penodol i’r Comisiynydd, gan gynnwys gosod a gorfodi safonau’r Gymraeg, gan ddyfarnu ar gwynion ac ar ymchwiliadau. Wrth gyflawni ei nod mae’r Mesur hefyd yn galluogi’r Comisiynydd i gyflwyno sylwadau i unrhyw berson, ac yn rhinwedd hynny yr ydym yn cyflwyno’r sylwadau canlynol ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae darlledu Cymraeg yn eithriadol bwysig o safbwynt amlygrwydd y Gymraeg a chyfleoedd i bobl glywed a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Fel y nodir yn Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ‘mae’r cyfryngau darlledu wedi chwarae rôl allweddol yn ein hymdrechion i adfywio’r Gymraeg dros sawl degawd’. Nid yw’n ormodedd dweud nad yw’r rôl allweddol hwnnw erioed wedi bod mor bwysig ag y mae heddiw o ystyried amlygrwydd y cyfryngau digidol yn ein bywydau bellach. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn cael amlygrwydd ar wasanaethau digidol yn her anferth ac mae’n arbennig o bwysig wrth geisio sicrhau bod pobl ifanc yn arbennig yn ymgysylltu yn rheolaidd â’r Gymraeg ac yn ei gweld fel rhan arferol o’u bywydau. Rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan annatod o ddatblygiadau digidol y presennol a’r dyfodol.

Yn setliad ffi’r drwydded ar gyfer 2022-27 penderfynodd Llywodraeth y DU rewi’r ffi am ddwy flynedd, ac yna bydd yn codi yn unol â chwyddiant am y cyfnod tan 2027. Bellach mae S4C fel y BBC yn derbyn ei chyllid i gyd allan o ffi’r drwydded. Cyhoeddodd DCMS setliad o £88.85 miliwn y flwyddyn i S4C ar gyfer 2022-23 a 2023-24. Bydd hynny’n cynyddu yn unol â chwyddiant am y pedair blynedd ganlynol. Mae’n gadarnhaol bod y setliad hwn yn cynnwys £7.5 miliwn ychwanegol o ffi’r drwydded i gefnogi ei datblygiadau digidol, gan gydnabod pwysigrwydd datblygiadau digidol yn y Gymraeg. Yn ei phapur gwyn diweddar ar ei gweledigaeth ar gyfer darlledu, amlinellodd Llywodraeth y DU y bwriad i ddiweddaru cylch gwaith S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a chael gwared â’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol. Mae’r cam hwn yn un cadarnhaol o ran ymestyn cyrhaeddiad S4C ar lwyfannau newydd. Felly hefyd y mae’r bwriad i gyflwyno trefn amlygrwydd newydd ar gyfer teledu ar-alw i sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo ar lwyfannau teledu dynodedig.

 

Wrth gwrs, mae perthynas agos rhwng S4C a’r BBC. Mae Deddf Darlledu 1990 yn mynnu bod y BBC yn darparu dim llai na 520 awr o gynnwys i S4C bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn ei bapur gwyn diweddar wedi amlinellu’r bwriad i alluogi BBC ac S4C i gytuno gyda’i gilydd ar drefniant amgen sy’n gweddu’n well i’r dirwedd ddarlledu sy’n esblygu a’r newid yn y ffordd y mae pobl yn cael gafael ar gynnwys. Rhaid sicrhau na fydd y trefniadau amgen hyn yn tanseilio’r ddarpariaeth bresennol, ac yn wir yn ei hymestyn. Y BBC hefyd yw prif ddarparwr cynnwys cyfrwng Cymraeg ar y radio, a’r unig un sy’n darlledu yn y Gymraeg yn unig. Yn hynny o beth, prin yw’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael ar orsafoedd radio masnachol ac nid oes gan Ofcom, y rheoleiddiwr darlledu, bwerau i’w gwneud yn ofynnol i’r Gymraeg gael ei chynnwys mewn fformatau radio masnachol. BBC Cymru Fyw yw gwasanaeth digidol y BBC ac mae’n darparu cynnwys amrywiol ym meysydd newyddion, cynnwys cyffredinol a chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae S4C a'r BBC wedi datblygu partneriaethau dros y blynyddoedd diwethaf gyda chyrff cenedlaethol sy’n gweithredu i hyrwyddo’r Gymraeg ac syn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys y Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Amlyga hyn bwysigrwydd darlledu yn y Gymraeg er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg a chefnogi siaradwyr newydd i ddysgu a defnyddio’r iaith.

Rhaid cydnabod pwysigrwydd y cyfryngau Cymraeg i hyfywedd yr iaith yn economaidd yn ogystal ag yn gymunedol. Nid yn unig oherwydd eu bod yn rhoi drych a mynegiant i ddyheadau a bywydau’r bobl hynny sy’n siarad yr iaith, ond eu bod hefyd yn cynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg weithio drwy gyfrwng yr iaith, gan roi gwerth ar y gallu i siarad Cymraeg. Yn ei dro felly rhaid pwysleisio pwysigrwydd cyfraniad economaidd y diwylliant a’r cyfryngau Cymraeg at hyfywedd cymunedau Cymraeg gan eu bod yn cyflogi cynifer o bobl yn y cymunedau hynny. Yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2021-22 cyfeiria S4C at ymchwil a gomisiynodd gan gwmni ymchwil Arad. Canfu’r ymchwil y creodd S4C yn 2019-20 effaith economaidd o £197.4m ar economi’r DU, ac £141.1m ar economi Cymru. Golyga hyn am bob £1 o incwm a dderbyniodd S4C yn 2019-20 y crëwyd effaith economaidd o £2.03 ar economi’r DU, £1.45 ar economi Cymru a £0.19 yn Sir Gaerfyrddin lle mae pencadlys S4C bellach.

Yn ôl adroddiad blynyddol 2021/22 y BBC swm ffi’r drwydded a gasglwyd yng Nghymru yn 2022 oedd £190 miliwn. Roedd cyfanswm y gwariant o ffi’r drwydded yng Nghymru (yn cwmpasu S4C, Radio Cymru, Radio Wales ayb) yn £188 miliwn ond mae gwariant y BBC ar raglenni rhwydwaith a wneir yng Nghymru yn ychwanegol at hynny. Wrth gwrs, mae gwylwyr/defnyddwyr Cymru yn defnyddio’r gwasanaethau rhwydwaith hynny hefyd.

Does dim amheuaeth nad oes peryglon real i’r diwylliant Cymraeg oherwydd y ddibyniaeth bresennol ar wasanaethau darlledu a ariennir gan y pwrs cyhoeddus, ac yn benodol y BBC. Gwneir nifer o benderfyniadau allweddol am ddarlledu ar lefel Brydeinig a rhaid sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru yn cael eu parchu’n llawn mewn penderfyniadau o’r fath. Yn ei phapur gwyn diweddar amlinellodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynnal adolygiad o fodel cyllido ffi’r drwydded cyn cyfnod nesaf Siarter y BBC. Felly, y tu hwnt i 2027 mae’n aneglur ar hyn o bryd sut y bydd y BBC, ac felly ei wasanaethau Cymraeg, ac S4C yn cael eu hariannu. Rhaid sicrhau bod cefnogaeth a chyllid digonol ar gael i'r dyfodol i sicrhau y bydd modd i S4C, y BBC ac eraill ddarparu arlwy addas yn y Gymraeg i gyd-fynd â’r newidiadau yn y byd digidol ac i gyfrannu’n llawn at weledigaeth Cymraeg 2050. Mae’n gwbl hanfodol felly fod darlledu yn y Gymraeg yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arni i ffynnu o 2027 ymlaen er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg fel iaith fodern a byw. Rhaid i bwysigrwydd darlledu yn y Gymraeg, yn ddiwylliannol, yn economaidd ac er budd ffyniant yr iaith fod yn rhan o gylch gorchwyl yr adolygiad. Gofynnwn ichi fel Pwyllgor geisio sicrhau bod hyn yn un o argymhellion eich ymchwiliad ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Hoffem dynnu eich sylw at y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, a lofnododd Llywodraeth y DU yn 2001. Ymhlith y cymalau sy’n berthnasol i’r Gymraeg mae Erthygl 11 – Y Cyfryngau. Mae’r adran hon yn cynnwys cymalau sy’n cyfeirio at egwyddorion pwysig yng nghyd-destun darlledu mewn ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol. Gofynnwn i chi sicrhau y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu yn unol â’r egwyddorion hyn trwy gefnogi darlledu yn y Gymraeg. Gofynnwn i Lywodraeth y DU gynnal sianel ddarlledu Gymraeg a, lle bo’r gyfraith yn creu darpariaeth ar gyfer costau, bod y Llywodraeth yn cwrdd ag unrhyw gostau ychwanegol sy’n codi mewn cysylltiad â darlledu Cymraeg, gan roi’r cymorth ariannol angenrheidiol i gynnal y gwasanaeth. Egwyddor hanfodol arall yw sicrhau y cynrychiolir diddordebau defnyddwyr.

Rydych yn gofyn yn ogystal am sylwadau ynghylch a fyddai symud i ffwrdd o ddarlledu chwaraeon am ddim yn sicrhau mwy o fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru. Mae darlledu chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol gan S4C dros y blynyddoedd wedi bod yn ddull pwysig o ddenu cynulleidfaoedd newydd i S4C, yn ogystal ag adlewyrchu rhan bwysig o ddiwylliant Cymru, fel sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus. Noda adroddiad blynyddol S4C ar gyfer 2021-22 bod pob un o’r gemau rygbi chwe gwlad a ddarlledwyd yn y cyfnod â chyrhaeddiad o dros 100,000 yr un, gyda dros 10,000 o sesiynau gwylio yr un ar Clic a’r iPlayer. Mae clywed chwaraeon yn cael eu trin a’u trafod yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyfryngau yn ffordd hollbwysig o normaleiddio defnyddio’r iaith yn naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad. O safbwynt y defnydd o’r Gymraeg felly mae darlledu chwaraeon yn Gymraeg yn hynod bwysig. Byddai angen ystyried effaith unrhyw symudiad i ffwrdd o ddarlledu chwaraeon am ddim ar y defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad felly ac ar gyrhaeddiad cynulleidfa Gymraeg. Petai symud pellach i ffwrdd o ddarlledu chwaraeon sydd ar hyn o bryd am ddim buasai’n rhaid sicrhau bod sylwebaeth Gymraeg yn cael ei darparu. Mae’n bosibl y buasai modd gwneud hynny drwy ddiwygio cod OFCOM ar chwaraeon a digwyddiadau penodedig.

Gobeithiwn y bydd y sylwadau hyn o ddefnydd ichi wrth ichi gynnal eich ymchwiliad.

 

 


Consultation - The future of public service broadcasting in Wales

Thank you very much for the opportunity to take part in the above consultation. The role of the Welsh Language Commissioner was created by the Welsh Language (Wales) Measure 2011 with the aim of promoting and facilitating the use of Welsh. The Measure confers a number of regulatory functions and specific powers on the Commissioner, including imposing and enforcing Welsh language standards, determining complaints and investigations. In achieving its aim, the Measure also enables the Commissioner to make representations to any person, by virtue of which we make the following representations on the future of public service broadcasting in Wales.

Welsh language broadcasting is vitally important in terms of the prominence of the Welsh language and opportunities for people to hear and use the Welsh language on a daily basis. As noted in the Welsh Government’s Cymraeg 2050 Strategy, ‘the broadcast media has played a key role in our efforts as a nation to revitalise the language over a number of decades’. It is no overstatement to say that that key role has never been as important as it is today, given the prominence of digital media in our lives. Ensuring that the Welsh language is given prominence on digital services is a huge challenge and is particularly important in trying to ensure that young people in particular engage regularly with the Welsh language and see it as a normal part of their lives. The Welsh language must be an integral part of current and future digital developments.

In the licence fee settlement for 2022-27 the UK Government decided to freeze the fee for two years, and then it would increase in line with inflation for the period until 2027. S4C, like the BBC, now receives all its funding from the licence fee. DCMS announced a settlement of £88.85 million a year for S4C for 2022-23 and 2023-24. That will increase in line with inflation for the following four years. It is positive that this settlement includes an additional £7.5 million from the licence fee to support its digital developments, thus recognising the importance of digital developments in the Welsh language. In its recent white paper on its vision for broadcasting, the UK Government outlined the intention to update S4C’s remit to include digital and online services and remove the current geographic broadcast restrictions. This move is positive in terms of extending S4C’s reach on new platforms. Similarly, the proposed introduction of a new prominence regime for on-demand television to ensure public service content is available and easy to find on designated TV platforms.

 

Of course, S4C and the BBC have a close relationship. The Broadcasting Act 1990 requires the BBC to provide no less than 520 hours of content to S4C each year. However, the UK Government in its recent white paper has outlined the intention to enable the BBC and S4C to agree together an alternative arrangement that better suits the evolving broadcasting landscape and the changing way people access content. It must be ensured that these alternative arrangements do not undermine the existing provision, and indeed extend it. The BBC is also the main Welsh language content provider on the radio, and the only one to broadcast exclusively in Welsh. In that respect, the Welsh language provision available on commercial radio stations is limited and Ofcom, the broadcasting regulator, does not have powers to require the Welsh language to be included in commercial radio formats. BBC Cymru Fyw is the BBC’s digital service and provides a range of content in news, general content and sport through the medium of Welsh. S4C and the BBC have developed partnerships over recent years with national bodies operating to promote the Welsh language, who also receive funding from the Welsh Government, including Mudiad Meithrin and the National Centre for Learning Welsh. This highlights the importance of broadcasting in Welsh in order to attract new audiences to the Welsh language and to support new speakers to learn and use the language.

The importance of the Welsh media to the economic viability, as well as the community viability, of the language must be recognised. Not only because they reflect and express the aspirations and lives of those people who speak the language, but they also offer opportunities for Welsh speakers to work through the medium of Welsh, giving value to the ability to speak Welsh. In turn, therefore, the importance of the economic contribution of Welsh culture and media to the viability of Welsh-speaking communities must be emphasised as they employ so many people in those communities. In its annual report for 2021-22, S4C refers to research commissioned by Arad research company. The research found that in 2019-20 S4C created an economic impact of £197.4m on the UK economy, and £141.1m on the Welsh economy. This means that for every £1 of income received by S4C in 2019-20 an economic impact of £2.03 was created on the UK economy, £1.45 on the Welsh economy and £0.19 in Carmarthenshire where the headquarters of S4C is now based.

According to the BBC’s annual report 2021/22 the amount of the licence fee collected in Wales in 2022 was £190 million. Total spend from the licence fee in Wales (covering S4C, Radio Cymru, Radio Wales etc) was £188 million, but the BBC’s spend on network programmes made in Wales is in addition to that. Of course, viewers/users in Wales also use those network services.

There is no doubt that there are real risks to Welsh culture due to the current reliance on publicly funded broadcasting services, and specifically the BBC. A number of key decisions are made about broadcasting at a British level and it must be ensured that the views and priorities of the Welsh Government and the Welsh Parliament are fully respected in such decisions. In its recent white paper, the UK Government outlined its intention to undertake a review of the licence fee funding model before the next BBC Charter period. Therefore, beyond 2027 it is currently unclear how the BBC, and therefore its Welsh language services, and S4C will be funded. Sufficient support and funding must be made available in the future to ensure that S4C, the BBC and others are able to provide suitable provision in Welsh to coincide with the changes in the digital world and to contribute fully to the vision of Cymraeg 2050. It is therefore absolutely essential that Welsh language broadcasting receives the support it needs to thrive from 2027 onwards in order to ensure the prosperity of Welsh as a modern, living language. The importance of Welsh language broadcasting culturally, economically and in the interests of the prosperity of the language must be part of the review’s remit. We ask you as a Committee to try to ensure that this is one of the recommendations of your investigation into public service broadcasting in Wales.

We would like to draw your attention to the European Charter for Regional or Minority Languages, which was signed by the UK Government in 2001. Among the clauses which are relevant to the Welsh language is Article 11 – Media. This section includes clauses which refer to important principles in the context of broadcasting in regional or minority languages. We ask you to ensure that the UK Government continues to operate in accordance with these principles by supporting Welsh language broadcasting. We ask the UK Government to support a Welsh language broadcasting channel and, where the law creates provision for costs, that the Government meets any additional costs arising in connection with Welsh language broadcasting, giving the necessary financial assistance to support the service. Another crucial principle is ensuring that users’ interests are represented.

You also ask for representations on whether moving away from free-to-air sports broadcasting would increase investment in grassroots sports in Wales. National and international sports broadcasting by S4C over the years has been an important means of attracting new audiences to S4C, as well as reflecting an important part of Welsh culture, as expected by public service providers. S4C’s annual report for 2021-22 notes that each of the six nations rugby matches broadcast in the period had a reach of over 100,000 each, with over 10,000 views each on Clic and iPlayer. Hearing sport being discussed naturally through the medium of Welsh on the media is a vital way of normalising the use of the language naturally when participating in grassroots sport. In terms of the use of the Welsh language, therefore, broadcasting sport in Welsh is vitally important. The impact of any move away from free-to-air sports on the use of Welsh on the ground would therefore need to be considered, as well as on the reach of a Welsh-speaking audience. If there was a further move away from free-to-air sports broadcasting, it would be necessary to ensure that a Welsh-language commentary was provided. It may be possible to do so by amending the OFCOM code on specified sports and events.

We hope that these representations will be useful to you in carrying out your investigation.

 

 

22 August 2022