‘Dim amser i'w golli' o ran trwsio system garthffosiaeth Cymru i atal carthion rhag gollwng
24 April 2023
Heddiw, mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn dadlau bod angen i reoleiddwyr a chwmnïau dŵr weithredu ar fwy o frys i lunio cynllun i ddisodli system garthffosiaeth gyfun hynafol Cymru er mwyn atal rhagor o ollyngiadau carthion hynod niweidiol.
Mewn llythyr at Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, mae Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor, yn tynnu sylw at dystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor dros ddwy sesiwn dystiolaeth gydag ymgyrchwyr, cwmnïau dŵr ac Ofwat. Mae'r prif broblemau sy'n peri pryder yn cynnwys diffyg monitro cywir o ran faint o garthion sy'n cael eu gollwng ac amlder y llifoedd, nifer y gollyngiadau carthion 'heb eu caniatáu' a'r nifer isel o erlyniadau yng Nghymru i orfodi ansawdd dŵr gwell.
Mae'r Pwyllgor o'r farn bod diffyg cynllun clir ac amserol i wneud gwelliannau a lleihau faint o garthion sy'n cael eu rhyddhau.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Rydym ni gyd yn ymwybodol iawn o’r holl garthion sy’n cael eu gollwng yn rheolaidd, diolch i fwy o sylw gan y cyfryngau ac ymdrechion ymgyrchwyr i daflu goleuni ar yr arfer annymunol hwn. Gall hyn fod yn niweidiol i iechyd pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd a dylid ei leihau mewn unrhyw genedl sydd wedi ymrwymo i ddiogelu ein hecosystemau naturiol.
“Mae system garthffosiaeth Cymru’n hen ac o dan bwysau aruthrol yn sgil mwy o law: mae angen iddi fod yn addas i'r diben. Yn anffodus, o'r hyn a glywsom mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r rhai sy'n gyfrifol, nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod cynllun brys i wneud gwaith uwchraddio hanfodol i'r seilwaith.
“Felly, rydw i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru heddiw i ddeall pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac i amddiffyn afonydd ac arfordiroedd Cymru.”
Rhagor o wybodaeth
Image: Pixabay