Aelodau Seneddol yn holi a stilio cwmnïau a rheoleiddwyr dŵr am ansawdd dŵr yng Nghymru
9 March 2023
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan reoleiddwyr dŵr a chwmnïau dŵr yng Nghymru, yn ei ail sesiwn dystiolaeth yn edrych ar ansawdd dŵr yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor wedi clywed bod tua thraean o holl afonydd Cymru yn methu â chyrraedd targedau ar lefelau ffosfforws, tra bod pump o bob naw o afonydd Cymru sydd wedi eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn methu oherwydd ffosfforws a maethynnau gormodol. Dim ond 40% o afonydd Cymru sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer statws ecolegol da ar hyn o bryd.
Cynhelir dau banel, a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ollyngiadau carthion a llygredd. Yn y panel cyntaf, bydd ASau'n archwilio sut y gall rheoleiddwyr orfodi rheoliadau presennol yn well a'r hyn sydd angen iddo ddigwydd i wella ansawdd dŵr. Mae'n debyg y bydd aelodau'r Pwyllgor yn gofyn i Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru nodi pa gamau maen nhw'n eu cymryd i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion a llygredd, yn ogystal â rhoi eu barn ar y posibilrwydd o gael cosbau llymach am achosion o lygredd difrifol.
Yna, bydd y Pwyllgor wedyn yn troi at ddau gwmni dŵr Cymru - Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu'r mwyafrif o Gymru, a chwmni llai Hafren Dyfrdwy. Mae ASau yn debygol o bwyso ar gwmnïau dŵr ar ba gamau maen nhw'n eu cymryd ar ansawdd dŵr. Ymhlith y cwestiynau sy'n debygol o godi yw a oes buddsoddiadau penodol i wella ansawdd dŵr ar y gweill, o ystyried y cynnydd mewn biliau dŵr a charthion cyfunol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, i bawb sy'n talu biliau yng Nghymru.
Tystion
O 10.00:
- David Black, Prif Weithredwr, Ofwat
- Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru
- Mark Squire, Sustainable Water Manager at Natural Resources Wales
O 11.00:
- Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff, Cwsmeriaid Busnes ac Ynni, Dŵr Cymru
- Jason Rogers, Pennaeth Ansawdd Dŵr a'r Amgylchedd, Hafren Dyfrdwy
Further information
Image: UK Parliament/Gabriel Sainhas