Skip to main content

ASau i edrych ar effaith polisi masnach ac amgylcheddol ar ffermydd teuluol yng Nghymru

23 July 2021

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad byr heddiw sy’n bwriadu edrych ar sut gallai newidiadau sylweddol mewn polisi effeithio ar ffermydd teuluol yng Nghymru.

Fel rhan o’r ymchwiliad byr hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ‘ffermydd teuluol’ (ffermydd bach a chanolig eu maint, er enghraifft, ffermwyr mynydd) yn hytrach na ffermydd mawrion o faint diwydiannol.

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae cytundebau masnach ryngwladol ac agenda uchelgeisiol parhaus o ran yr amgylchedd wedi dominyddu rhan helaeth o bolisi Llywodraeth y DU dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn deall yr effaith maent yn eu cael ar bobl a chymunedau cyffredin sydd ond yn ceisio ennill bywoliaeth. Rhaid sicrhau bod pawb yn buddio o’r datblygiadau hyn mewn polisi, ac wrth edrych ar yr effaith ar ffermydd teuluol, rydym yn gobeithio taflu goleuni ar sut all gymunedau ffynnu am genedlaethau a sut y gellir diogelu eu bywoliaeth.”

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig yn ymateb i’r cwestiynau canlynol. Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener 24 Medi.

  • Pa mor unigryw yw ffermydd teuluol a pha mor arwyddocaol yw eu cyfraniad at fywyd diwylliannol Cymru?
  • Beth yw’r prif heriau sy’n wynebu ffermydd teuluol, a chymunedau ffermio’n fwy cyffredinol, yng Nghymru?
  • Beth yw goblygiadau posib cytundebau masnach rydd i ffermwyr yng Nghymru?
  • Sut, os o gwbl, mae agenda polisi newid yn yr hinsawdd Llywodraeth y DU yn effeithio ar ffermydd teuluol, gan gynnwys cenedlaethau o ffermwyr yn y dyfodol a chymunedau gwledig yng Nghymru?
  • Pa gamau ymarferol gall Lywodraeth y DU gymryd i gefnogi’r cymunedau hyn a sut ddylai llywodraethau’r DU a Chymru gydweithio i gefnogi treftadaeth a diwylliant unigryw y cymunedau hyn, gan gynnwys eu cyfraniad i’r iaith Gymraeg?

Further information 

Image: CC0