Skip to main content

ASau i ystyried y system budd-daliadau yng Nghymru wrth i gynlluniau cymorth COVID-19 ddod i ben

15 June 2021

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad newydd heddiw yn edrych ar y system budd-daliadau yng Nghymru. Mae'r ymchwiliad newydd yn dilyn cyfnod heriol heb ei debyg i'r system budd-daliadau o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae'r rhifau presennol yn dangos:

  • 282,274 o bobl ar Gredyd Cynhwysol, gyda chynnydd o 82% ers Mawrth 2020.
  • Rhwng 18 Fawrth 2020 a 15 Ebrill 2021, cafwyd 192,717 Taliad Cymorth Mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, yn dod i gyfanswm o £12.82 miliwn.

Gyda mesuriadau cymorth allweddol yn ymwneud â COVID-19 yn dod i ben ym mis Medi, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, mae'n bosib y bydd mwy o bobl yn gwneud cais i'r system budd-daliadau. Mae'r rhifau mwyaf diweddar yn dangos bod 159,600 o swyddi yn dal i fod ar ffyrlo ac mae rhai ardaloedd, fel Conwy ag 18% o'i swyddi ar ffyrlo, yn parhau i ddibynnu'n neilltuol ar y cynllun.

Bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i'r heriau mwyaf i'r system budd-daliadau yng Nghymru a sut mae'r pandemig wedi newid y math a swm y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl.

Bydd hefyd yn ystyried pa mor effeithiol yw lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, y Gronfa Cymorth Dewisol a Phrydau Ysgol Am Ddim, wrth ddiwallu anghenion pobl.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar p'un ai fod angen diwygio'r system budd-daliadau yng Nghymru, gan gynnwys datganoli cyfrifoldebau nawdd cymdeithasol, ac yn ystyried goblygiadau posib cynllun arbrofol arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld cynnydd digynsail mewn ceisiadau ar gyfer Credyd Cynhwysol ar draws Cymru o ganlyniad i'r cyfyngiadau yn ystod y cyfnod clo. Wrth i fathau newydd o gefnogaeth lles gael eu sefydlu gan Lywodraeth y DU yn ystod y pandemig a gyda Prif Weinidog Cymru yn addo ymgymryd â chynllun arbrofol ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru, mae’n amser da i edrych ar sut y mae'r system budd-daliadau yn cefnogi teuluoedd ym mhob rhan o Gymru a sut y gallai newid yn y dyfodol."

Cylch gorchwyl

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig yn ymateb i'r cwestiynau canlynol. Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Mawrth 10 Awst.

  • Beth yw'r prif heriau ar gyfer y system budd-daliadau yng Nghymru a sut maent yn wahanol i genhedloedd a rhanbarthau eraill yn y DU?
  • Cyn y pandemig, pa mor effeithiol oedd gwaith y system budd-daliadau yn y DU yn mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a'r Alban?
  • Sut mae pandemig COVID-19 wedi newid y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl yng Nghymru, o ran math a swm?
  • Pa mor effeithiol yw ymateb system budd-daliadau'r DU wedi bod i'r anghenion hyn, a beth arall ddylai Llywodraeth y DU wneud i ddarparu'r gefnogaeth briodol i Gymru?
  • I ba raddau mae lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru yn effeithiol wrth ddiwallu anghenion penodol pobl Cymru?
  • Pa ddiwygiadau sydd angen ar y system budd-daliadau a dylid datganoli pwerau ymhellach?
  • I ba raddau mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol i ddarparu budd-daliadau yng Nghymru?
  • Beth yw goblygiadau'r cynllun arbrofol ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru?

Further information

Image: Cardiff/Elliot Brown/flickr