Y Pwyllgor Materion Cymreig i ddechrau derbyn tystiolaeth ar gapasiti grid yng Nghymru
11 March 2022
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal y sesiwn dystiolaeth gyntaf yn ei ymchwiliad i Gapasiti grid yng Nghymru.
- YN FYW: Parliament TV: Watch the session live
- Inquiry: Grid capacity in Wales
- Welsh Affairs Committee
Yn ystod y sesiwn baratoadol gydag arbenigwyr y diwydiant, bydd ASau yn edrych ar oblygiadau materion yn ymwneud â chapasiti grid. Dyma’r pynciau fydd yn debygol o gael eu trafod:
- Rhwydwaith trawsyrru Cymru;
- Cysylltiadau grid i gynlluniau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol;
- Rôl rhanddeiliaid wrth baratoi’r grid ar gyfer galw’r dyfodol;
- Y Gwarant Gwerthu Clyfar;
- Polisi ynni perthnasol llywodraethau’r DU a Chymru;
- Beth yn fwy y gall llywodraethau’r DU a Chymru ei wneud i ddiogelu’r grid at y dyfodol.
Mae’r ymchwiliad yn dilyn un blaenorol gan y Pwyllgor i Ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Dadleuodd y Pwyllgor y gallai Cymru fod yn arweinydd ym myd ynni adnewyddadwy, ond y gallai materion yn ymwneud ag isadeiledd, megis capasiti grid, fod yn rhwystr i unrhyw gynnydd ac yn her sylweddol i gyflawni ymrwymiadau sero net.
Tystion am 10.00yb
- Jon O'Sullivan, Cyfarwyddwr Ynni Gwynt ar y Tir ac Ynni’r Haul, EDF Energy
- Tom Glover, Cadeirydd Gwlad RWE, RWE UK
- Robert Proctor, Rheolwr Datblygu Busnes, Ynni Cymunedol Cymru
Tystion am 11.00yb
- Rhys Wyn Jones, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, Renewable UK
- Chris Williams, Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol, Diwydiant Cymru
Further information
Image: Robin Drayton