Skip to main content

Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i archwilio iechyd a dyfodol ieithoedd lleiafrifol

19 January 2023

Dyfodol ieithoedd lleiafrifol ar Ynysoedd Prydain a rôl y Llywodraeth yn eu cefnogi a'u datblygu yw testun ymchwiliad newydd gan Bwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Bydd Aelodau Seneddol yn ystyried y ffactorau allweddol sy'n pennu a yw iaith leiafrifol yn ffynnu, beth ddylai'r meini prawf fod ar gyfer pennnu statws swyddogol, ac a oes gwersi i'w dysgu gan wledydd eraill lle mae rhuglder eang mewn mwy nag un iaith.

Cylch gorchwyl

Mae Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ar y cwestiynau canlynol erbyn 10 Mawrth 2023.

  1. Beth yw'r ffactorau allweddol sy'n pennu a yw iaith leiafrifol frodorol yn ffynnu?
  2. Pa wersi y gellir eu dysgu gan wledydd y mae eu poblogaethau'n sicrhau rhuglder eang mewn iaith fwyafrifol a iaith leiafrifol frodorol?
  3. Beth ddylai’r meini prawf fod ar gyfer barnu a ddylai iaith leiafrifol dderbyn statws swyddogol?
  4. Beth ddylai rôl Llywodraeth y DU fod o ran cefnogi a datblygu ieithoedd lleiafrifol brodorol?

Gellir cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig mewn iaith leiafrifol ond rhaid cynnwys cyfieithiad Saesneg hefyd.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS, Cadeirydd Gweithredol Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:

"Byddai teithwyr a oedd yn teithio drwy Ynysoedd Prydain ychydig ganrifoedd yn ôl wedi clywed amrywiaeth gyfoethog o ieithoedd a thafodieithoedd o Norn ym mhen draw’r gogledd i Gernyweg yn y de orllewin. Ers hynny rydyn ni wedi mynd yn fwyfwy uniaith, ond mae ieithoedd y Sgoteg, Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg, Cymraeg, Sgoteg Ulster a Chernyweg yn parhau i fod yn agweddau pwysig ar ddiwylliant rhanbarthol, gydag eraill fel y Gernyweg wrthi’n cael eu hadfywio. Bydd ein hymchwiliad yn edrych ar sefyllfa ein hieithoedd lleiafrifol, a allan nhw oroesi mewn byd sydd wedi'i ddominyddu gan y Saesneg a beth ddylai rôl y Llywodraeth fod o ran eu diogelu a'u datblygu."

Further information

Image: Parliamentary copyright