Skip to main content

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymateb i'r Adolygiad o Wariant

13 June 2025

Sylw'r Cadeirydd

Wrth ymateb i gyhoeddiadau'r Llywodraeth yn yr Adolygiad o Wariant, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Ruth Jones AS: 

“Mae'n addawol clywed bod y Llywodraeth yn cymryd y cam i amddiffyn cymunedau yng Nghymru rhag y risgiau a gyflwynir gan domenni glo gyda'r cyhoeddiad y bydd £118 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo. 

Dim ond y bore yma, clywodd y Pwyllgor gan awdurdodau lleol am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth adfer tomenni glo risg uchel, yn enwedig gyda chyllid cyfyngedig. Fel rhan o'n hymchwiliad, rydym yn awyddus i weld a fydd yr arian hwn nid yn unig yn caniatáu i Gymru barhau â'r gwaith hanfodol i gadw pobl yn ddiogel, ond hefyd yn darparu twf economaidd i gyn-gymunedau meysydd glo.  

Mae hefyd yn galonogol clywed am y £445 miliwn sy'n cael ei ddyrannu i brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor a minnau wedi bod yn dweud ei bod hi’n hen bryd gweld buddsoddiad digonol yn y seilwaith rheilffyrdd. Mae'r cyllid hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac rydym yn awyddus i wybod a fydd y cyllid hwn yn troi'n welliannau gweladwy, go iawn, ac os felly, sut. 

Mae'r cyhoeddiad o £2.4 miliwn ar gyfer rhaglen Brand Cymru i annog mewnfuddsoddiad a rhoi hwb i allforion o Gymru ledled y byd yn dangos ymrwymiad i'w groesawu i hyrwyddo rhagoriaeth Cymru ac agor drysau newydd i fusnesau. 

Byddwn yn archwilio'n fanwl sut effaith y bydd cyhoeddiadau eraill yr Adolygiad o Wariant yn ei chael ar Gymru, gan gynnwys canlyniadau Barnett.” 

Gwybodaeth bellach

Llun: Tŷ'r Cyffredin/Roger Harris