Skip to main content

Pwyllgor yn cymeradwyo Delyth Evans fel Cadeirydd newydd S4C

25 April 2025

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cymeradwyo Delyth Evans fel yr ymgeisydd a ffefrir gan y Llywodraeth i Gadeirio’r darlledwr Cymraeg, S4C.

Sianel Gymraeg Cymru yw S4C sy’n darlledu rhaglenni ar draws ystod o genres gan gynnwys newyddion, drama, rhaglenni dogfen, adloniant a phlant.

Daw’r gymeradwyaeth ar ôl i’r Pwyllgor trawsbleidiol holi Ms Evans am ei blaenoriaethau tebygol pe bai’n cael ei phenodi, perthnasedd ei phrofiad blaenorol a’i chynlluniau i ymateb i’r heriau sy’n wynebu S4C. Cynhaliwyd y sesiwn yn ddwyieithog, gyda chyfleuster cyfieithu ar y pryd yn caniatáu cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Ms Evans yn gyn-wleidydd Llafur, a wasanaethodd fel Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2000-2003, ac mae’n gyn-brif weithredwr elusen ac aelod o fwrdd nid-er-elw. Cyn hynny, bu’n gweithio fel newyddiadurwr darlledu ar raglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar.

Yn ei adroddiad ar benodiad Ms Evans, sydd ar gael ar wefan y Pwyllgor, mae’r Pwyllgor yn dweud y bydd angen i Ms Evans “brofi y gall ymwreiddio diwylliant sefydliadol newydd o ymddiriedaeth a thryloywder yno, hyrwyddo gwelliannau o ran llywodraethu, a sicrhau cyllid hirdymor S4C y tu hwnt i 2028.”

Gwybodaeth bellach

Llun: Tŷ'r Cyffredin