Skip to main content

GIG: Pwyllgor yn gofyn am gynlluniau'r llywodraeth i atal oedi mewn gofal iechyd trawsffiniol

31 March 2025

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi gofyn i Lywodraethau'r DU a Chymru am ragor o fanylion am eu cynlluniau i wella gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.

Mewn dau lythyr a gyhoeddwyd heddiw, mae'r Pwyllgor yn gofyn a all y llywodraethau ddatblygu systemau i ganiatáu i gleifion gael eu gweld dros y ffin yn haws, er enghraifft, trwy ddefnyddio un cofnod cleifion electronig.

Nid yw systemau TG a ddefnyddir gan staff y GIG ledled Cymru a Lloegr bob amser yn gweithio gyda'i gilydd, fel y clywodd y Pwyllgor yn ddiweddar, gan roi cleifion mewn perygl o orfod wynebu profion ailadroddus neu oedi i'w triniaeth.

Daw'r llythyrau ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau i ddiddymu GIG Lloegr, gyda manylion eto i ddod ar sut y bydd hyn yn cael ei weithredu.

Mae'r llythyrau, wedi'u cyfeirio at Wes Streeting, Ysgrifennydd Iechyd y DU a Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ar gael ar wefan y Pwyllgor.

Mae'r llythyrau hefyd yn gofyn am fanylion am unrhyw fanteision pendant i gleifion sy'n debygol o ddeillio o'r "bartneriaeth newydd" rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, a gyhoeddwyd ym mis Medi, i leihau rhestrau aros o boptu’r ffin.

Sylw'r Cadeirydd

Meddai Ruth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

"Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod eisiau dod â'r GIG yn ôl o dan reolaeth ddemocrataidd. Ar yr un pryd, mae wedi cyhoeddi 'partneriaeth newydd' i leihau rhestrau aros yng Nghymru a Lloegr.

Ond a fydd y camau rhethregol hyn yn arwain at fanteision pendant i gleifion niferus y GIG sy'n cael mynediad at wasanaethau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr?

Rydyn ni’n gofyn am ragor o fanylion am y camau y mae pob llywodraeth yn eu cymryd, fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion trawsffiniol.

Gwybodaeth bellach

Llun: Tŷ'r Cyffredin