Skip to main content

Sut ddyfodol fydd hi i ffermwyr Cymru? Aelodau Seneddol yn lansio ymchwiliad newydd

11 March 2025

Heddiw mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad i'r heriau a'r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant ffermio yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor trawsbleidiol yn archwilio pa gymorth sydd ei angen gan Lywodraeth y DU ar sector ffermio Cymru, a pha gymorth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd.

Un o’r materion y mae aelodau'r Pwyllgor yn debygol o'u hystyried yw effaith bosibl diwygiadau arfaethedig y Llywodraeth i’r dreth etifeddiant ar ffermwyr yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ymchwilio i weld a yw ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd wedi effeithio ar fasnach allforion amaethyddol Cymru, o gofio bod dros 80% o allforion bwyd ac anifeiliaid Cymru yn mynd i'r UE yn 2018. Bydd y Pwyllgor hefyd yn archwilio sut y bydd bwriad Llywodraeth y DU i ‘ailosod’ pethau o ran y berthynas rhwng y DU a'r UE yn effeithio ar fasnach nwyddau amaethyddol i'r UE.  

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried sut y bydd newidiadau i gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn effeithio ar ffermwyr. Yng Nghyllideb yr Hydref y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddod â’r arfer o glustnodi cyllid penodol ar gyfer amaeth yng Nghymru i ben. Ni fydd dyraniadau yn y dyfodol yn cael eu diogelu rhag cystadleuaeth gydag anghenion eraill. Yn hytrach, bydd yr arian yn cael ei gynnwys yn y pot cyffredinol o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan San Steffan. Mae rhai yn y sector yn poeni y bydd hyn yn golygu bod Cymru'n derbyn llai o arian ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae'r ymchwiliad yn dilyn dau adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgorau rhagflaenol: ‘Brexit: priorities for Welsh agriculture’ a gyhoeddwyd yn 2018 ac 'the economic and cultural impacts of trade and environmental policy on family farms in Wales’ a gyhoeddwyd yn 2022.

Mae’r cylch gorchwyl llawn ar gael ar wefan y Pwyllgor.

Sylw'r Cadeirydd 

Meddai Ruth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

"Mae ffermio yn gonglfaen i economi a diwylliant Cymru. Ond ar hyn o bryd mae'r sector dan straen oherwydd pwysau cyllid, cynnydd mewn costau ynni, a chyd-berthnasau masnachu newydd i’w llywio. Gyda dros 50,000 o bobl yn gweithio yn sector amaethyddol Cymru, mae angen i ni sicrhau bod ffermwyr yn cael y cymorth a'r cyllid cywir.

"Bydd yr ymchwiliad yn gyfle i ddeall yr heriau sydd o'n blaenau a'r hyn y gall Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi ffermwyr Cymru. Rydyn ni am ddeall sut y gallwn sicrhau hirhoedledd y diwydiant a rhoi ffermio ar sylfaen mwy cadarn ar gyfer y dyfodol."

Gwybodaeth bellach

Llun: Tŷ'r Cyffredin