Pwyllgor yn cyhoeddi gohebiaeth ar amaethyddiaeth a threth etifeddiant
19 February 2025
Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi gohebiaeth ar bwnc treth etifeddiant i berchnogion ffermydd.
Yn y Gyllideb ym mis Hydref 2024, nododd y Canghellor gynlluniau i leihau budd Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR) o'r Dreth Etifeddiant.
Fodd bynnag, mae amcangyfrifon o nifer y trethdalwyr sy'n ffermio y gallai'r newid hwn effeithio arnyn nhw wedi amrywio. Mewn llythyr at y Pwyllgor, mae Jeremy Moody o Gymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol yn awgrymu y gallai effeithio ar fwy o drethdalwyr nag a amcangyfrifwyd yn flaenorol.
Gan nodi amcangyfrif y Trysorlys y gallai 520 o drethdalwyr y DU gael eu heffeithio ym mlwyddyn gyntaf y newid, mae Mr Moody yn asesu y gallai Cymru fodloni 40% o'r cyfanswm hwn yn unig. Mae'n ysgrifennu bod hyn yn "ychwanegu at y farn bod yr amcangyfrif swyddogol o nifer y rhai sydd wedi eu heffeithio yn tanamcangyfrif y nifer hwnnw yn sylweddol".
Mae'n awgrymu y gallai hyn fod oherwydd nad yw ffigurau'r Trysorlys yn ystyried hawliadau ffermio a wnaed o dan y Rhyddhad Eiddo Busnes yn unig, a bod disgwyl i'r newid greu hawliadau newydd a fyddai wedi'u heithrio o'r blaen.
Yn y llythyr, mae Mr Moody yn trafod posibiliadau ar gyfer faint o ffermydd, ac yn yr un modd, faint o drethdalwyr sy'n ffermio a allai fod o fewn cwmpas y newidiadau. Mae'n dod i'r casgliad ei fod yn "amcangyfrif rhesymol" y bydd 200 o drethdalwyr yng Nghymru bob blwyddyn bellach yn talu treth yn sgil gwerth eu busnesau ffermio.
Sylw'r Cadeirydd
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Ruth Jones AS:
"Mae hwn yn fater pwysig i'r nifer o drethdalwyr ledled Cymru sy'n dibynnu ar ffermio a'r gadwyn gyflenwi ffermio am eu bywoliaeth. Rhaid i ni sicrhau bod unrhyw newidiadau i dreth yn gymesur ac nad yw rhai yn cael eu gadael mewn sefyllfa amhosib.
"Fodd bynnag, mae'r honiadau amrywiol dros ddata yn profi bod hwn yn ddarlun sy’n newid. Mae'n rhaid i ni gymryd safbwynt ehangach: sut allwn ni sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermwyr Cymru? Rwy'n disgwyl i’r Pwyllgor ystyried yr wybodaeth hon wrth i ni barhau i graffu ar waith y Llywodraeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac ystyried sut y gallwn ni ddarparu sylfaen mwy cadarn i’r diwydiant ffermio."
Gwybodaeth bellach
Llun: Tŷ'r Cyffredin