Skip to main content

Torri swyddi Caerdydd yn arwydd cynnar o ddyddiau tywyll o’n blaenau, meddai Cadeirydd y Pwyllgor

31 January 2025

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi ymateb i'r newyddion bod Prifysgol Caerdydd yn bwriadu torri 400 o swyddi llawn amser.

Sylw'r Cadeirydd

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Ruth Jones AS:

"Mae'r newyddion yma yn destun pryder mawr. Er mwyn i Gymru ffynnu, mae angen i'w phrifysgolion oroesi ac mae pob swydd a gollir yn rhwystro'r genhadaeth honno. Nid academyddion a myfyrwyr yn unig fydd yn dioddef yn sgil y toriadau hyn, ond y gymuned ehangach yma yn y De.

"Ond dim ond un o'r prifysgolion sy'n wynebu pwysau ariannol difrifol yw Caerdydd. Heb sicrwydd ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor a nifer y myfyrwyr rhyngwladol a'r DU, mae perygl y gallai'r broblem hon ledaenu ymhellach. Ydy'r newyddion heddiw yn arwydd cynnar o ddyddiau tywyll o’n blaenau?

"Rwy'n annog Llywodraeth y DU i ymchwilio i sut y gall weithio gyda'r sector prifysgolion i ddarparu sicrwydd hirdymor mawr ei angen a byddaf yn gofyn i Brif Weinidog Cymru sut y gall ei Llywodraeth gymryd ei chamau ei hun, pan fydd yn ymddangos nesaf gerbron ein pwyllgor."

Gwybodaeth bellach 

Llun: Tŷ'r Cyffredin / Roger Harris