Gofal iechyd trawsffiniol, rheilffyrdd a Chaergybi ymhlith y sesiynau sydd ar y gweill ar gyfer y Pwyllgor Materion Cymreig
21 January 2025
Dros y pedair wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio nifer o faterion proffil uchel sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys gofal iechyd trawsffiniol, y seilwaith rheilffyrdd a Chaergybi.
- Gwyliwch yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar Parliamentlive.tv
- Correspondence between the Welsh Government and the UK Government on rail in Wales
- Pwyllgor Materion Cymreig
Ddydd Mercher 22 Ionawr, bydd ASau yn archwilio cyflwr gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys tystiolaeth gan uwch arweinwyr y GIG, sy’n debygol o gael eu holi ynghylch pa mor effeithiol y mae sefydliadau GIG Cymru a Lloegr yn gweithio gyda’i gilydd.
Gall yr ASau hefyd ofyn i dystion sut y gall darparwyr iechyd yng Nghymru ddysgu ganddarparwyr iechyd yn Lloegr, ac fel arall, ac am eu gobeithion ar gyfer “partneriaeth newydd” Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi, o safbwynt lleihau rhestrau aros o boptu’r ffin.
Nesaf, bydd yr ASau yn holi swyddogion ar ddyfodol seilwaith rheilffyrdd Cymru, wedi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddweud wrth y Pwyllgor mai’r rheilffyrdd oedd ei “phrif flaenoriaeth” i Gymru.
Ac yn dilyn ailagor porthladd Caergybi yn rhannol, efallai y bydd yr ASau hefyd am fwrw golwg ar sut y gall y Llywodraeth gefnogi busnesau lleol ar ôl i’r porthladd ddioddef difrod yn ystod Storm Darragh.
Mae’r ASau yn debygol o ailedrych ar y materion hyn eto pan fyddant yn clywed gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, yn ei hymddangosiad cyntaf gerbron y Pwyllgor.
Bydd rhagor o fanylion am y sesiynau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Tystion, 22 Ionawr
Panel un, o 14.30:
- Rachel Power, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Cleifion
- Dr David Bailey, cyn-Gadeirydd Cyngor Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain
- Dr Stephen Kelly, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorwyr Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain
Panel 2, o 15.15:
- Stacey Taylor, Prif Gomisiynydd Dros Dro, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
- Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Simon Whitehouse, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Integredig Swydd Amwythig, Telford a Wrekin
Gwybodaeth bellach
- Am y Senedd: Pwyllgorau dethol
- Ymweld â'r Senedd: Gwylio pwyllgorau
Llun: Tŷ'r Cyffredin