Skip to main content

Ysgrifennydd Cymru: rheilffyrdd yw prif flaenoriaeth yr Adolygiad o Wariant

16 January 2025

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai'r rheilffyrdd oedd ei phrif flaenoriaeth i Gymru, mewn ymddangosiad gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw.

Wrth siarad â'r Pwyllgor, dywedodd Jo Stevens mai rheilffyrdd fyddai ei phrif flaenoriaeth i Gymru yn yr Adolygiad o Wariant.

Dywedodd fod Llywodraethau'r DU a Chymru yn cydnabod nad oedd Cymru wedi derbyn ei chyfran deg o gyllid yn y gorffennol, a bod comisiynau trafnidiaeth Gogledd a De-ddwyrain Cymru, ac Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb, yn darparu glasbrint ar gyfer buddsoddi.

Fodd bynnag, ni wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymrwymo i ailddosbarthu HS2 fel prosiect Lloegr-yn-unig, yn hytrach na'i statws presennol fel prosiect Cymru a Lloegr, sy’n atal Cymru rhag gallu cyllid digolledu.

Hefyd, gofynnwyd iddi nodi llinell amser o gamau gweithredu arfaethedig ond dywedodd na allai fynd o flaen Adolygiad Gwariant y Llywodraeth.

Daeth geiriau'r Ysgrifennydd Gwladol ar ôl i’r Pwyllgor gyhoeddi llythyr gan weinidogion y Llywodraeth, Heidi Alexander a Jo Stevens, yn cyfaddef eu bod yn tanfuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru.

Yn y llythyr, mae gweinidogion yn cyfaddef bod rheilffyrdd yng Nghymru wedi gweld lefelau isel o wariant ar welliannau. Maen nhw'n ysgrifennu bod hyn yn ei gwneud hi'n anoddach gwireddu'r newid mewn dulliau teithio sydd ei angen i gynnal gwelliannau parhaus.

Fodd bynnag, nid yw'r gweinidogion yn ymrwymo i symiau penodol o gyllid ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru. Maent yn dweud y bydd blaenoriaethu prosiectau gwella gwasanaethau rheilffyrdd a gynigir gan Fwrdd Rheilffyrdd Cymru yn cyfrannu at Adolygiad Gwariant y Gwanwyn.

Sylw'r Cadeirydd

Wrth ymateb i'r sesiwn, dywedodd Ruth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae cymunedau ledled Cymru yn cael eu dal yn ôl gan danfuddsoddi hanesyddol yn ein rheilffyrdd. Rydym yn rhoi croeso brwd i'r newyddion heddiw taw gwella rheilffyrdd Cymru fydd prif flaenoriaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adolygiad nesaf o wariant.

“Roeddwn hefyd yn falch ei bod yn cydnabod rôl ein Pwyllgor rhagflaenol wrth gyflwyno'r achos dros Fwrdd Rheilffyrdd Cymru, i nodi lle mae angen buddsoddiad newydd fwyaf. 

“Edrychaf ymlaen at glywed manylion ei chamau nesaf tuag at gyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru, ac amserlen ar gyfer cyflawni ei hymrwymiadau."

Gwybodaeth bellach

Llun: Tŷ'r Cyffredin