'Dim cefnogaeth' i'r gadwyn gyflenwi sydd wedi'i heffeithio gan gau porthladd Caergybi medd Cadeirydd y Pwyllgor
19 December 2024
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn sut y bydd yn helpu i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan gau Porthladd Caergybi.
- Pwyllgor Materion Cymreig
- Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi ysgrifennu at y Llywodraeth
Yr wythnos hon, adroddwyd y byddai'r porthladd ar gau tan 15 Ionawr ar y cynharaf, yn dilyn difrod Storm Darragh ar 6 a 7 Rhagfyr.
Yn y llythyr, mae'r Cadeirydd yn gofyn i Lywodraeth y DU am wybodaeth am sut y mae'n cefnogi busnesau a gweithwyr sydd wedi'u heffeithio, a sut y bydd yn helpu'r porthladd iailagor.
“Mae'r cau yma'n digwydd ar adeg dyngedfennol o'r flwyddyn," meddai, "gyda nwyddau ychwanegol yn symud rhwng Gweriniaeth Iwerddon a'r DU i fodloni gofynion y Nadolig, yn ogystal â phobl yn teithio i weld eu hanwyliaid.”
“Mae busnesau lleol a chenedlaethol nid yn unig yn wynebu cost ychwanegol ailgyfeirio nwyddau ond hefyd y posibilrwydd o golli nwyddau, er enghraifft nwyddau darfodus," ychwanegodd y Cadeirydd. “Er y bydd rhai teithwyr a busnesau yn gallu adennill rhywfaint o'u costau, does dim cefnogaeth fel hyn i'r gadwyn gyflenwi ehangach ar Ynys Môn.”
Mae hefyd yn sôn am y ffaith bod llawer o bobl sy’n byw yng Nghaergybi yn dibynnu ar y porthladd am waith neu incwm. Os yw'r porthladd yn parhau ar gau tan 15 Ionawr, bydd llawer o'r bobl hyn yn wynebu anawsterau ariannol dros gyfnod y gaeaf.
Mae'r porthladd, sydd mewn lleoliad strategol allweddol rhwng y DU ac Iwerddon, yn cyflenwi llwybr fferis mwyaf ond un y DU. Mae dwy filiwn o deithwyr ar gyfartaledd yn defnyddio Caergybi bob blwyddyn ac mae tua 1,200 o lorïau a threlars yn croesi bob dydd.
Gwybodaeth bellach
- Am y Senedd: Pwyllgorau dethol
- Ymweld â'r Senedd: Gwylio pwyllgorau
Llun: Tŷ'r Cyffredin