Skip to main content

Penodi aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig

30 October 2024

Mae Tŷ'r Cyffredin wedi penodi’n ffurfiol aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae gan bob plaid ei phrosesau mewnol ei hun ar gyfer enwi ei henwebiadau i lenwi ei seddau ar bwyllgorau. Cytunwyd ar enwebeion unigol a gyflwynwyd gan bleidiau gwleidyddol yn Nhŷ'r Cyffredin, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Dethol. Mae rhai pwyllgorau'n dal i gynnwys un neu ddwy swydd wag y disgwylir iddynt gael eu llenwi cyn bo hir.

Mae dyraniadau seddau’r pleidiau ar draws ac o fewn pwyllgorau yn cyfateb i nifer yr Aelodau Seneddol a etholwyd i Dŷ'r Cyffredin yn yr etholiad cyffredinol, gyda'r union nifer yn cael ei drafod gan chwipiaid y pleidiau drwy'r Pwyllgor Dethol. 

Cafodd Ruth Jones ei hethol yn ddiwrthwynebiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig gan bob aelod o Dŷ'r Cyffredin ym mis Medi.  

Bydd manylion cyfarfodydd a blaenraglen y Pwyllgor yn cael eu cyhoeddi maes o law. 

Mae'r Aelodau Seneddol canlynol wedi'u penodi:  

Enw 

Plaid

Ruth Jones [Cadeirydd]

Llafur

David Chadwick

Democratiaid Rhyddfrydol

Ann Davies

Plaid Cymru 

Chris Evans

Llafur

Claire Hughes

Llafur

Llinos Medi

Plaid Cymru

Andrew Ranger

Llafur

Henry Tufnell

Llafur

Steve Witherden

Llafur

Gwybodaeth bellach

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: Tŷ'r Cyffredin