Ruth Jones yn cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig
9 September 2024
Mae Ruth Jones wedi cael ei hethol yn ddiwrthwynebiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig. Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi yn y Siambr gan y Llefarydd.
Bydd yr AS etholedig yn ymgymryd â'i rôl fel cadeirydd y pwyllgor pan fydd gweddill aelodau'r pwyllgor wedi'u penodi gan y Tŷ.
Meddai’r Cadeirydd Newydd, Ruth Jones AS:
“Mae’n fraint cael gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig. Ar ôl bod yn aelod gweithgar o’r Pwyllgor yn ystod y Senedd ddiwethaf, mae’n bleser cael ysgwyddo’r rôl newydd hon.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob ochr o’r Tŷ i ddal y Llywodraeth newydd i gyfrif ynghylch ei huchelgeisiau ar gyfer Cymru.”
Rhagor o wybodaeth:
Llun: Tŷ’r Cyffredin