Enwebiadau ar agor ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig
6 September 2024
Mae Aelodau Seneddol wedi dechrau'r broses o ethol Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn y Senedd newydd.
- Y Pwyllgor Materion Cymreig
- Ffurflen enwebu cadeiryddion y pwyllgorau dethol (docx, 63KB)
- Nodyn briffio ar ethol cadeiryddion pwyllgorau (docx, 63KB)
- Sut mae pwyllgorau dethol yn ethol Cadeiryddion
Cyhoeddodd y Llefarydd amserlen ar gyfer yr etholiadau ar 30 Gorffennaf. Bydd y cyfnod enwebu yn para tan 4pm ddydd Llun 9 Medi, a'r bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Mercher 11 Medi.
Bydd y Cadeirydd newydd yn cael ei ethol o'r blaid Lafur o dan y drefn dyrannu cadeiryddion pwyllgorau i bleidiau gwleidyddol y cytunwyd arni gan y Tŷ ar 30 Gorffennaf 2024.
Ers 2010, mae'r rhan fwyaf o gadeiryddion pwyllgorau wedi eu hethol gan y Tŷ cyfan, drwy system o bleidlais amgen a thrwy bleidlais gudd. I fod yn ddilys, rhaid i enwebiadau gynnwys datganiad wedi'i lofnodi a wnaed gan yr ymgeisydd yn datgan ei barodrwydd i sefyll.
Rhaid hefyd cael llofnodion 15 Aelod Seneddol a etholwyd i Dŷ’r Cyffredin fel aelodau o'r un blaid wleidyddol â'r ymgeisydd (neu 10 y cant o'r ASau a etholwyd i'r Tŷ fel aelodau o'r blaid honno, pa un bynnag yw'r isaf). Gellir casglu mwy na 15 llofnod ond dim ond y 15 llofnod dilys cyntaf sy'n cael eu hargraffu. Caniateir i aelodau enwebu un ymgeisydd yn unig i bob pwyllgor dethol.
Gall enwebiadau gynnwys llofnodion hyd at bum Aelod Seneddol a etholwyd i'r Tŷ yn aelodau o unrhyw blaid ac eithrio'r blaid y dyrannwyd rôl y cadeirydd iddi neu aelodau heb unrhyw blaid. Yn yr un modd, dim ond pum llofnod o'r fath sy'n cael eu hargraffu.
Rhaid i ymgeiswyr ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol gyda'u henwebiad. Cyhoeddir enwebiadau dilys sy’n cyrraedd bob dydd gyda Phapur Trefn y diwrnod canlynol, a byddant yn cael eu rhestru isod.
Enwebiadau
Ymgeisydd: Ruth Jones
Cefnogwyr (o'i phlaid ei hun): Carolyn Harris, Tonia Antoniazzi, Catherine Fookes, Andrew Ranger, Gill German, Claire Hughes, Luke Akehurst, Adam Jogee, Emil Thornberry, Paula Barker, Pam Cox, Simon Opher, Neil Coyle, Kate Osborne, Mary Glindon
Cefnogwyr (pleidiau eraill neu ddim plaid): Liz Saville Roberts, Ben Lake, Tim Farron, Column Eastwood, Greg Smith
Buddiannau perthnasol a nodwyd: Dim
Rhagor o wybodaeth
Llun: Tŷ’r Cyffredin