Skip to main content

Safle niwclear Wylfa: Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn croesawu cyhoeddiad

22 May 2024

Wrth ymateb i'r newyddion bod Wylfa yn Ynys Môn wedi ei ddewis fel gorsaf ynni niwclear nesaf y DU, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS:

“Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam gwych ar gyfer safle sydd wedi dangos addewid ar gyfer ynni niwclear ers amser maith.

“Yn ystod ein hymchwiliad i ynni niwclear yng Nghymru, fe wnaeth sawl tyst ddweud yn glir bod safle Wylfa yn ddelfrydol i fod yn orsaf ynni niwclear nesaf y DU. Ar ôl prynu'r safle’n barod, rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi cydnabod hyn ac yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau.

“Bydd yn cymryd peth amser i ddatblygu'r safle; rwy'n edrych ymlaen at glywed rhagor o fanylion am gynlluniau'r Llywodraeth, gan gynnwys ynghylch cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig, hyfforddiant a buddsoddiad yn y Gogledd".

Further information

Image: House of Commons