Skip to main content

Y 'pedwar banc mwyaf' i roi tystiolaeth ar gynlluniau ar gyfer eu canghennau ar y stryd fawr

20 May 2024

Yr wythnos hon, bydd Aelodau Seneddol yn craffu ar ‘bedwar banc mwyaf’ y DU ynghylch eu hymrwymiad i gynnal mynediad at wasanaethau bancio ar y stryd fawr yng Nghymru.

Ddydd Mercher 22 Mai, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed tystiolaeth gan HSBC, Lloyds, Barclays a NatWest wrth i’r Pwyllgor ddechrau ar ei ymchwiliad i fynediad at wasanaethau bancio ar y stryd fawr yng Nghymru.

Mae ymchwil sy’n seiliedig ar dueddiadau presennol ac a gynhaliwyd gan sefydliad y defnyddwyr Which? yn awgrymu y bydd Cymru wedi colli dwy ran o dair o'r canghennau oedd ar agor yn 2015 erbyn diwedd 2025, gan adael dim ond 188 ar ôl yn y wlad. Does dim cangen banc mewn rhai trefi fel Abergele ac Aberpennar ers 2017, sy’n golygu eu bod mewn 'diffeithwch bancio' i bob pwrpas. 

Mae Aelodau Seneddol yn debygol o ofyn i dystion ar y panel cyntaf esbonio'r rhesymeg y tu ôl i gau banciau yng Nghymru, a pha gamau maen nhw'n eu cymryd i sicrhau bod rhai cwsmeriaid - perchnogion busnesau bach, neu'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt.

Mae rhai banciau yn gweithredu gwasanaethau amgen; mae gan Barclays, er enghraifft, fan bancio symudol, ac roedd yr un peth yn wir am Lloyds nes i’r prosiect ddod i ben ym mis Mai 2024. Mae'r Aelodau'n debygol o ofyn pam y cafodd y gwasanaeth hwn ei ganslo, ac a yw gwneud hynny'n cynyddu’r perygl o ynysu cymunedau ymhellach heb gangen brics a mortar.

Bydd Aelodau Seneddol yn ymchwilio i'r hyn y mae banciau'r stryd fawr yn ei gynnig fel gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd a phenderfyniad HSBC i gau’r llinell ffôn Gymraeg. Byddant hefyd yn edrych ar yr amgylchedd rheoleiddio sy'n ymwneud â chau canghennau banc.

Yn ddiweddarach yn y sesiwn, bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed gan gynrychiolwyr o Swyddfa'r Post, Cash Access UK a LINK, ac mae’n bosib y byddant yn gofyn i’r sefydliadau hyn sut y gallent gyfrannu at wasanaethau amgen fel Hybiau Bancio.

Tystion

Panel un, o 10.00:

  • Christopher Dean - Pennaeth Sianeli Cwsmeriaid yn y DU, HSBC
  • Miles Ravenhill - Cyfarwyddwr Banciau Cymunedol, Lloyds
  • Carole Layzell - Rheolwr Gyfarwyddwr Barclays Local y De, Barclays
  • Jimmy Robertson - Pennaeth Rhwydwaith Canghennau, NatWest

Panel dau, o 10.45:

  • Ross Borkett, Cyfarwyddwr Bancio, Swyddfa'r Post
  • John Howells, Prif Swyddog Gweithredol, LINK
  • Gareth Oakley, Prif Swyddog Gweithredol, Cash Access UK