Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Jeremy Miles i ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig
30 April 2024
Ddydd Mercher 1 Mai, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg Jeremy Miles AS yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig.
- Watch Parliament live: Defence industry in Wales; Impact of population change in Wales
- Inquiry: Defence industry in Wales
- Inquiry: Impact of population change in Wales
Y sesiwn dystiolaeth fydd cyfle cyntaf y Pwyllgor i glywed gan Mr Miles ynglŷn â pherfformiad economaidd Cymru ers iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ym mis Mawrth 2024. Mae data a ryddhawyd yn 2021 yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU y pen o'r boblogaeth ac, yn 2023, roedd cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru yn 19.9%, o gymharu â 17.5% yn y DU.
Bydd Mr Miles yn ateb cwestiynau yn ymwneud ag ymchwiliadau'r Pwyllgor i ddiwydiant amddiffyn Cymru ac effaith newid yn y boblogaeth yng Nghymru.
Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i effaith newid yn y boblogaeth yng Nghymru, mae ASau yn debygol o ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Gall aelodau'r pwyllgor archwilio cynlluniau Llywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i aros yng Nghymru, a'i hymateb i'r crynodiad uchel o ail gartrefi mewn rhai rhannau o Gymru.
O ran y diwydiant amddiffyn, gall ASau archwilio pa rôl mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer y diwydiant yn economi Cymru, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i arloesi sy'n gysylltiedig ag amddiffyn, y biblinell sgiliau STEM a phartneriaethau diwydiannol.
Tystion
- Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru
Further information
Image: MoD