Skip to main content

Pwyllgor i ymchwilio i raddfa llygredd mwyngloddiau metel yng Nghymru

24 April 2024

Heddiw, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyhoeddi sesiwn dystiolaeth untro i lygredd o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru.

Ddydd Mercher 8 Mai, bydd ASau yn ystyried effaith llygredd mwyngloddiau metel, cynlluniau presennol ar gyfer adfer, a yw’r rheoliadau presennol yn ddigonol, a lefel a thryloywder y wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae gan Gymru hanes hir o fwyngloddio am fetelau fel plwm, sinc ac aur, yn enwedig yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru, a Cheredigion ar arfordir y gorllewin. Roedd y diwydiant yn ei anterth ar ddiwedd y 19eg ganrif, cyn dod i ben yn gyfan gwbl erbyn y 1920au.

Mae’r mwyngloddiau hyn, sy’n gwbl segur i raddau helaeth bellach, yn gyfranwyr sylweddol metelau fel cadmiwm, plwm, sinc a chopr mewn afonydd, nentydd a llynnoedd cyfagos. Gall y metelau hyn, o’u canfod mewn crynodiadau uchel, niweidio stociau pysgod lleol a bioamrywiaeth planhigion.

Fodd bynnag, gallant hefyd beri risg bosibl i iechyd y cyhoedd. Yn ôl adroddiadau yn y Financial Times, datgelodd prosiect yn 2022 a ariannwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru lefelau niweidiol o blwm mewn wyau ar ddwy fferm i lawr yr afon o fwyngloddiau plwm segur yng ngorllewin Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cynnal tair sesiwn dystiolaeth ar ansawdd dŵr yng Nghymru ers mis Chwefror 2023. Er bod y sesiynau hyn wedi canolbwyntio’n bennaf ar orlifiadau carthion, mynegwyd pryderon gan dystion ynghylch llygredd o fwyngloddiau metel segur.  

Bydd tystion yn cynnwys arbenigwyr academaidd ar lygredd afonydd o fwyngloddio metel, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r rheoleiddwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo, sy’n gyfrifol ar y cyd am adfer hen safleoedd diwydiannol yng Nghymru.

Chair's comment

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb:

“Hyd yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am beryglon llygredd o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru. Mae hynny o wybodaeth sydd ar gael wedi arwain rhai i fynegi pryder, ond mae’n hanfodol ein bod ni’n creu darlun manwl a chadarn o’r broblem bosibl.

“Yn ein sesiwn dystiolaeth, bydd y Pwyllgor yn clywed gan arbenigwyr academaidd a rheoleiddwyr i ddatgelu gwir gwmpas y mater hwn, beth sydd eisoes yn cael ei wneud i’w adfer, a pha gamau pellach sydd angen eu cymryd.”

Further information

Image: House of Commons