Skip to main content

Digartrefedd a chysgu allan: ydy’r rhai sy'n gadael carchardai Cymru mewn mwy o berygl?

15 April 2024

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio ansawdd ac argaeledd tai i bobl sy’n gadael y carchar wrth iddo barhau â'i ymchwiliad i garchardai yng Nghymru.

Mae llawer o garcharorion yn wynebu problemau sylweddol o ran cael lle i fyw pan fyddant yn gadael y ddalfa. Mae'r Pwyllgor wedi clywed yn uniongyrchol gan garcharorion yng Ngharchar Caerdydd y gall llety fod yn anaddas i'r rhai sy'n gwella o gamddefnyddio alcohol a sylweddau, fe all fod yn llety tymor byr neu fod yna ddim llety o gwbl. Amlygwyd hyn hefyd mewn arolygiad o Garchar Abertawe yn 2023, a ganfu bod traean o'r carcharorion naill ai'n ddigartref neu mewn llety dros dro ar eu noson gyntaf wedi iddynt gael eu rhyddhau.

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfiawnder Troseddol a Datblygu Gwasanaethau Menywod yn St Giles Trust wrth y Pwyllgor ym mis Mawrth y gallai llety o ansawdd gwael ddychwelyd y rhai sy'n gadael carchar i "amgylcheddau sy'n eu gwneud yn fwy agored i niwed nag erioed".

Mae ASau'n debygol o ofyn i dystion am y problemau y mae'r rhai sy'n gadael carchar yng Nghymru yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau llety, pa fath o gefnogaeth sydd ar gael, ac a yw ansawdd y tai sydd ar gael yn golygu ei fod yn anaddas ar gyfer adsefydlu.

Efallai y byddant hefyd yn gofyn a yw mentrau a gyflwynwyd ers 2019 – megis ehangu nifer y Cynghorwyr Tai - wedi gwella'r sefyllfa, ac a yw rhai carchardai ac awdurdodau lleol yn fwy llwyddiannus nag eraill wrth ddod o hyd i dai addas i'r rhai sy'n gadael.

Tystion

Dydd Mercher 17 Ebrill 2024, 10.00, Ystafell Bwyllgor 5

Panel un:

  • Chloe Marshall, Rheolwr Gweithrediadau Nacro Cymru, Nacro
  • Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Panel dau:

  • Stephanie Rogers-Lewis, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Angen Tai, Cyngor Caerdydd
  • Tracy Hague, Pennaeth Gwasanaethau (Tai), Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Liza Ridge, Arweinydd Opsiynau a Dyraniadau Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Further information

Image credit: HMPPS