Skip to main content

A yw banciau’r stryd fawr yn troi cefn ar Gymru? ASau i ymchwilio i’r gallu i gael gafael ar arian parod

27 March 2024

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar y ffaith fod cymaint o fanciau’r stryd fawr wedi cau canghennau yng Nghymru wrth iddo lansio ymchwiliad newydd i ba mor hawdd yw cael gafael ar arian parod a chael mynediad at wasanaethau bancio ar y stryd fawr.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried sut mae dirywiad mewn gwasanaethau bancio ar y stryd fawr yn effeithio ar bobl agored i niwed a busnesau bach ledled Cymru, sy’n aml yn fwy dibynnol ar arian parod na bancio digidol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi profi gostyngiad cyflym yn nifer y gwasanaethau bancio sydd ar gael i’r cyhoedd ar y stryd fawr. Ers dechrau 2024, cyhoeddwyd y bydd 22 o fanciau stryd fawr yng Nghymru yn cau, tra bod niferoedd peiriannau arian (ATM) wedi gostwng bron i chwarter rhwng 2018 a 2023.

Mae busnesau bach yn aml yn dibynnu ar arian parod oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cardiau credyd a thaliadau ar ffonau symudol, sy’n gallu tanseilio meintiau elw bach. Mae grwpiau agored i niwed hefyd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl wrth i wasanaethau arian parod a gwasanaethau wyneb yn wyneb ddiflannu o’u cymunedau lleol. Gallai grwpiau o’r fath gynnwys pobl ar incwm is, pobl sydd ag anableddau corfforol neu feddyliol, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a phobl hŷn.

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn archwilio sut mae colli gwasanaethau bancio ar y stryd fawr yn effeithio ar Gymru, ac a yw’r broblem yn waeth yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU. Bydd yn ystyried a yw’r rheoliadau cyfredol yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod y boblogaeth yn gallu cael gafael ar wasanaethau bancio, ac a yw awgrymiadau fel hybiau bancio, faniau bancio a banciau cymunedol yn ddigon i gymryd lle canghennau ar y stryd fawr.

Sylw'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb:

“Wrth i fancio ar-lein ddod yn fwy poblogaidd, mae gwasanaethau ar y stryd fawr yn diflannu ledled Cymru. Ond mae perygl y bydd nifer o fusnesau bach a phobl agored i niwed sy’n dibynnu ar arian parod yn cael eu gadael ar ôl gan y newid hwn.

“Mae perygl i hyn fod yn fater difrifol i Gymru a allai fynd allan o reolaeth yn gyflym. Rhaid i ni beidio â gadael i’n hunain gyrraedd sefyllfa lle mae microfusnesau entrepreneuraidd neu bobl sydd eisoes dan anfantais yn cael eu cau allan o wasanaethau bancio y mae pawb yn dibynnu arnynt.

“O ran yr ymchwiliad hwn, rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan y rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y symud hwn oddi wrth arian parod a changhennau banciau ar y stryd fawr. Rwy’n annog unrhyw un sydd â phrofiad uniongyrchol o golli gwasanaethau bancio i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor.”

Cylch gorchwyl 

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig erbyn 8 Mai 2024. Dylai’r rhain ganolbwyntio ar y canlynol, er nad oes rhaid iddynt fod yn gyfyngedig i hynny:

  • Pa ranbarthau neu gymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y ffaith fod canghennau banciau ar y stryd fawr yn cau a’i bod yn anoddach cael gafael ar arian parod?
  • Pa grwpiau cymdeithasol sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y ffaith fod canghennau banciau ar y stryd fawr yn cau?
  • Beth yw’r effaith ar gwsmeriaid a busnesau bach pan nad oes modd iddynt gael mynediad at wasanaethau bancio ar y stryd fawr?
  • A yw’r problemau sy’n tarddu o’r ffaith fod canghennau banciau yn cau yn waeth yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU?
  • A yw’r amgylchedd rheoleiddio presennol yn sicrhau bod seilwaith bancio ffisegol ar gael yn hawdd i gwsmeriaid yng Nghymru?
  • A yw’r atebion cyfredol sy’n llenwi’r bwlch oherwydd diffyg banciau ar y stryd fawr (gan gynnwys hybiau bancio, faniau bancio a banciau cymunedol) yn ddigonol ac a ydynt yn cynnig digon o gyfleoedd i gymunedau allu cael gafael ar arian parod?

Rhagor o wybodaeth