Skip to main content

Llywodraethwyr pum carchar Cymru i ymddangos gerbron Aelodau Seneddol

16 February 2024

Bydd Llywodraethwyr pum carchar Cymru yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig wrth i Aelodau Seneddol barhau i gasglu tystiolaeth ar 'Garchardai yng Nghymru’.

Bydd y sesiwn eang yn holi Llywodraethwyr i weld beth yw'r prif heriau sy'n wynebu carchardai yng Nghymru, er mwyn nodi a yw'r heriau wedi gwaethygu neu wella ers ymchwiliad y Pwyllgor blaenorol i garchardai yn 2019. 

Mewn sesiwn dystiolaeth gynharach, clywodd Aelodau Seneddol sut wnaeth mesurau a fabwysiadwyd mewn carchardai adeg pandemig Covid-19 - fel y gymhareb uwch o swyddogion i garcharorion - helpu i arwain at welliannau, yn enwedig o safbwynt llai o achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau. Mae'r Pwyllgor yn debygol o ofyn a yw'r llywodraethwyr yn cytuno â'r asesiad hwn, ac os felly, a yw unrhyw un o'r mesurau hyn yn parhau yn yr ystad carchardai.

Mae'r Aelodau hefyd yn debygol o drafod cyflwr carchardai, ac a ydynt yn diwallu anghenion carcharorion, yn enwedig o ystyried amcangyfrifon bod poblogaeth y carchardai yn debygol o gynyddu.

Tystion 

O 10.00:

  • Amanda Corrigan, Llywodraethwr, CEF Caerdydd
  • Rob Denman, Llywodraethwr, CEF Brynbuga a Phrescoed
  • Rebecca Hayward, Llywodraethwr, CEF Berwyn
  • Chris Simpson, Llywodraethwr CEF Abertawe
  • Heather Whitehead, Cyfarwyddwr, CEF y Parc 

Further information

Image credit: HMPPS