Prif Weithredwr Byd-eang a Phrif Weithredwr y DU Tata Steel i roi tystiolaeth ar benderfyniad y cwmni i gau ffwrneisiau chwyth ym Mhort Talbot
25 January 2024
Ddydd Mercher 31 Ionawr, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiynau tystiolaeth yn y bore a'r prynhawn i graffu ar benderfyniad Tata Steel i gau ei ffwrneisiau chwyth ym Mhort Talbot wrth iddo symud tuag at gynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach yn y DU. Gallai'r penderfyniad arwain at bron i 3,000 o bobl yn colli eu swyddi ar safle Port Talbot.
- Watch Parliament TV: The steel industry in Wales
- Inquiry: The steel industry in Wales
- Welsh Affairs Committee
Bydd sesiwn dystiolaeth y bore yn clywed gan Brif Weithredwr Byd-eang a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel, T. V. Narendran, Prif Weithredwr y DU Tata Steel, Rajesh Nair, ac undebau llafur.
Yn y cyfamser, yn y prynhawn, bydd y Pwyllgor yn clywed gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, Aelod o’r Senedd, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David T.C. Davies, Aelod Seneddol.
Mae'r aelodau'n awyddus i archwilio effaith penderfyniad Tata Steel ar y gymuned leol, economi Cymru a gweithgynhyrchu yng Nghymru, a dyfodol sector dur y DU.
Tystion
O 09.30 (Ystafell Thatcher, Portcullis House):
- Undeb GMB (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
- Unite (cynrychiolydd i'w gadarnhau)
- Alasdair McDiarmid, Ysgrifennydd Cyffredinol, Community
O 10.15 (Ystafell Thatcher, Portcullis House):
- T. V. Narendran, Prif Weithredwr Byd-eang a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel
- Rajesh Nair, Prif Weithredwr y DU Tata Steel
O 14.15 (Ystafell Bwyllgor 8):
- Vaughan Gething, Aelod o’r Senedd, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru
O 15.00 (Ystafell Bwyllgor 8):
- David T.C. Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Rhagor o wybodaeth
Image: Pixabay