Skip to main content

Dim newid i'r drefn digwyddiadau rhestredig yng Nghymru, medd Llywodraeth y DU

22 January 2024

Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref, galwodd y Pwyllgor am gynnwys cystadleuaeth rygbi'r Chwe Gwlad yng Ngrŵp A y Drefn Digwyddiadau Rhestredig. Mae Llywodraeth y DU wedi egluro nad yw rhestru digwyddiad yng Ngrŵp A neu B yn gwarantu y bydd ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn gwrthod galwadau'r Pwyllgor i gynnal adolygiad o'r rhestrau. Mae hefyd yn dweud y bydd S4C yn bodloni'r meini prawf am y tro cyntaf  i fod â mwy o allu i brynu'r hawliau i ddangos darllediadau byw o ddigwyddiadau rhestredig.

O weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Ofcom i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol sy'n darparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg, i ariannu canolfannau cynhyrchu ledled y DU, mae'r Pwyllgor yn croesawu cefnogaeth gyffredinol Llywodraeth y DU i’r byd darlledu yng Nghymru. Mae hyn yn debygol o gael ei ategu ymhellach gan Bil y Cyfryngau, sy'n mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, a bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro ei gynnydd.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd ei hadolygiad o ffi'r drwydded yn rhoi ystyriaeth lawn i ddarlledu Cymraeg. Fel y gwnaed yn glir yn ei adroddiad, mae gan raglenni Cymraeg rôl bwysig sy'n adlewyrchu a llywio hunaniaeth y Gymru fodern. Mae'r ffaith fod y Llywodraeth yn cydnabod yr anawsterau sy’n wynebu darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus wrth negodi gydag enwau mawr byd-eang i sicrhau bod eu cynnwys yn cael sylw priodol, yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor. Felly, mae'r Pwyllgor yn croesawu symudiadau'r Llywodraeth i gyflwyno fframwaith amlygrwydd ar-lein newydd i sicrhau bod cynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cael sylw gwarchodedig ar draws platfformau teledu mawr.

Mae llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor hefyd wedi'i gyhoeddi heddiw. Yn y llythyr, mae’r Aelod o’r Senedd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn rhoi teyrnged i lwyddiant y sector sgrin yng Nghymru, gan fyfyrio ar farn BBC Cymru-Wales mai 2023 oedd 'blwyddyn y ddrama yng Nghymru’.

Chair's comment

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae darlledu yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol sy'n gallu denu partneriaid rhyngwladol i fuddsoddi a chynhyrchu rhaglenni o'r radd flaenaf y gall cynulleidfaoedd rhyngwladol eu mwynhau. Ond fel y pwysleisiodd ein Pwyllgor ym mis Hydref, gall darlledu yng Nghymru fod yn well fyth, gan gynnwys diogelu a darparu mwy o gynnwys Cymraeg a sicrhau digwyddiadau chwaraeon mawr yn rhad ac am ddim.

“Er ei bod hi'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo bod angen diwygio'r digwyddiadau rhestredig i gynnwys pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae croeso cynnes i'r gefnogaeth gyffredinol y mae'n ei chynnig i'r sector darlledu yng Nghymru. Mae ei hymateb, a gyhoeddwyd heddiw, yn amlinellu llawer o fentrau a pholisïau sy'n parhau i gefnogi darlledu yng Nghymru, rhai ohonynt wedi'u seilio ar Fil y Cyfryngau. Bydd ein Pwyllgor yn parhau i fonitro taith Bil y Cyfryngau drwy’r Senedd.” 

Further information

Image: CC0