Ydy'r cynnydd mewn ail gartrefi mewn ardaloedd penodol yng Nghymru yn effeithio ar y Gymraeg?
18 January 2024
Yn ei ail sesiwn dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad 'Effaith newid poblogaeth yng Nghymru', bydd yr Aelodau'n canolbwyntio ar y sector tai a gwasanaethau lleol.
- Effaith newid poblogaeth yng Nghymru
- Dydd Mercher 24 Ionawr am 10.00, Ystafell Bwyllgor 16
- Gwyliwch yn fyw ar parliamentlive.tv
Bydd y panel cyntaf, sy'n clywed gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Chyngor Sir Ceredigion yn archwilio materion fel cyffredinrwydd ail gartrefi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Yn benodol, bydd yr Aelodau'n dymuno ymchwilio i'r hyn y gallai hyn ei olygu i'r cymunedau hynny, effaith y lefel uchel o fewnfudo ac economïau lleol.
Yna bydd ASau yn clywed gan gynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Chydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru ar sut mae gwasanaethau lleol, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, yn effeithio ar newid yn y boblogaeth.
Tystion
O 10.00:
- Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
- Barry Rees MBE, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion
- Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr
O 11.00:
- Ellie Fry, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Paul Jones, Cyfarwyddwr Strategol: yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cyngor Dinas Casnewydd
- Aaron Hill, Cyfarwyddwr, Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru
Rhagor o wybodaeth
Image credit: Adobe Stock