Aelodau Seneddol i ddechrau cymryd tystiolaeth ar ystad carchardai Cymru
11 January 2024
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf sy'n archwilio 'Carchardai yng Nghymru', er mwyn ceisio gael gwell dealltwriaeth o ystad carchardai Cymru ac o brofiad sefydliadau'r trydydd sector sy'n gweithio gyda charchardai ac yn y sector.
Ar draws dau banel, bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i archwilio effaith y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu cadw mewn carchardai ledled Cymru, seilwaith ffisegol ystad carchardai Cymru a phrofiadau swyddogion carchardai. Ymhlith materion eraill, byddant yn debygol o drafod effaith Covid-19 ar garchardai a charcharorion, a phrofiad menywod Cymru yng ngharchardai Lloegr.
Tystion
Dydd Mercher 17 Ionawr am 10.00, Ystafell Bwyllgor 8
O 10.00:
- Dr Robert Jones, Darlithydd, Prifysgol Caerdydd
- Terry McCarthy, Cynrychiolydd Gogledd Cymru ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, Cymdeithas y Swyddogion Carchar
O 11.00:
- Bryn Hall, Uwch Swyddog Datblygu Cymru, Clinks
- Katie Fraser, Pennaeth Carchardai a Chyfranogiad, Women in Prison
Further Information
Image credit: PA