Skip to main content

“Credwn fod angen Cadeirydd newydd ar S4C”: Y Pwyllgor Materion Cymreig yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant

10 January 2024

Y prynhawn yma, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ‘bryderus’ gyda Chadeirydd S4C a'r Aelod Anweithredol Arweiniol o Fwrdd Unedol S4C.

Yn y llythyr hwn, mae Mr Crabb yn nodi pryderon parhaus y Pwyllgor am faterion ynghylch llywodraethiant ac arweinyddiaeth y darlledwr. Fel y pwysleisiodd yn ei adroddiad ar Ddarlledu yng Nghymru, mae'r Pwyllgor yn credu yn S4C fel unig ddarlledwr Cymraeg y genedl a'i rôl bwysig yn hybu a hyrwyddo diwylliant Cymru a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Mae'n hollbwysig bod gan y sefydliad a'i arweinyddiaeth hyder holl aelodau'r staff wrth fynd i'r afael â phryderon i ail-feithrin ymddiriedaeth ar bob lefel yn S4C a gyda'i randdeiliaid ehangach.

O ystyried pwysigrwydd S4C a graddfa’r heriau o ran gwella llywodraethiant a diwylliant o fewn y sefydliad, mae'r Pwyllgor wedi argymell bod y Llywodraeth yn penodi Cadeirydd newydd i fwrw’r gwaith hwn yn ei flaen.

Further information

Image: Parliamentary copyright