Skip to main content

ASau i glywed gan BBaChau amddiffyn a seiber Cymru

23 November 2023

Gan adeiladu ar dystiolaeth a glywyd drwy ei ymchwiliad i'r Diwydiant amddiffyn yng Nghymru, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan gyflenwyr a BBaChau yn y diwydiannau amddiffyn a diogelwch yng Nghymru.

Bydd Arcanum Information Security, Qioptiq a Tritech yn ymddangos gerbron y Pwyllgor mewn sesiwn sy'n archwilio cysylltiadau'r cwmnïau â chwmnïau amddiffyn mwy o faint o bob cwr o Gymru. Bydd y sesiwn yn ystyried y cyfleoedd i gwmnïau llai gael mynediad at gadwyni cyflenwi amddiffyn a'u cyfraniad at ddatblygiadau arloesol. Mae'n debygol y bydd ymgysylltiad y Weinyddiaeth Amddiffyn â BBaChau yn cael ei godi hefyd, yn enwedig yng ngoleuni ei tharged y dylai 25% o'i gwariant caffael fynd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i BBaChau.

Mae Arcanum, Qioptiq a Tritech yn gweithredu mewn gwahanol sectorau: seiberddiogelwch, optoelectroneg ac awyrofod.

Tystion

O 10.00:

  • Russ Wardle OBE DL, Rheolwr Gyfarwyddwr, Arcanum Information Security
  • Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr, Qioptiq
  • Kimberley Northover, Rheolwr Datblygu Busnes, Tritech

Further information

Image: MoD