Skip to main content

Airbus UK a Thales i drafod gweithrediadau yng Nghymru gydag ASau

9 November 2023

Bydd Airbus UK a Thales yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig, gan nodi'r ail sesiwn dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad 'Y diwydiant amddiffyn yng Nghymru'.

Bydd y cwmnïau'n cynnig golwg ar eu gweithrediadau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd i gynnal a thyfu eu busnes, ac atyniad Cymru i gwmnïau amddiffyn a seiberddiogelwch. Bydd ASau hefyd am drafod gydag Airbus UK a Thales eu cysylltiadau â BBaChau a phrifysgolion Cymru, a'u perthynas â llywodraethau'r DU a Chymru.

Mae Airbus UK yn cyflogi 5,500 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol, ac mae ei weithgarwch yng Nghymru yn cefnogi 11,600 o swyddi eraill yng Nghymru ac yn cyfrannu £311 miliwn at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Cymru. Yn y cyfamser, mae Thales yn cyflogi tua 100 o bobl yn uniongyrchol, ac mae ei weithgareddau'n cefnogi 700 o swyddi pellach ac yn cyfrannu £47 miliwn at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth blynyddol Cymru.

Tystion

O 10.00:

  • Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Airbus UK
  • Claire Mitchell, Cyfarwyddwr, Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth Ddiogel, Thales

Rhagor o wybodaeth

Image credit: Elspeth Keep/UK Parliament