Skip to main content

Pam mae pobl ifanc yn gadael Cymru? Aelodau Seneddol yn lansio ymchwiliad i archwilio newid poblogaeth yng Nghymru

27 July 2023

Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad newydd yn edrych ar newid poblogaeth yng Nghymru.

Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn nag ardaloedd eraill yng ngweddill y DU - mae'n uwch na holl ranbarthau Lloegr ar wahân i'r De-orllewin. Mae nifer y rhai 15-64 oed hefyd wedi gostwng 2.5% rhwng 2011 a 2021.

Mae hyn yn rhan o ddarlun mwy sy'n awgrymu bod twf poblogaeth yng Nghymru yn arafu. Rhwng 2001 a 2011, tyfodd y boblogaeth yng Nghymru 5.5% ond, rhwng 2011 a 2021, gostyngodd y ffigur i 1.4%. Ledled Cymru, mae rhai ardaloedd yn gweld cyfraddau twf uwch na mannau eraill, gyda Chasnewydd, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr i gyd yn gweld cynnydd sylweddol yn y boblogaeth. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol yn adrodd am boblogaethau is yn 2021 o gymharu â 2011 megis Blaenau Gwent, ac un peth sy'n destun pryder yw bod llawer o'r ardaloedd hyn yn gadarnleoedd y Gymraeg megis Ceredigion a Gwynedd.

Drwy'r ymchwiliad hwn, mae'r Pwyllgor yn ceisio deall y rhesymau dros y newid yn y boblogaeth a'i effeithiau. Bydd yn archwilio pa fesurau lliniaru y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith i fodloni heriau posibl y newid yn y boblogaeth.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb:

“Mae poblogaeth Cymru yn newid. Mae'r twf yn arafu yn gyffredinol, tra bod rhai ardaloedd fel Ceredigion yn gweld gostyngiad yn nifer y preswylwyr. Mae'r boblogaeth yn heneiddio ar draws Cymru gyfan, a Chaerdydd, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yw'r unig leoedd sydd wedi profi cynnydd yn nifer y bobl o oedran gweithio. Mae ein Pwyllgor am dynnu sylw at y tueddiadau hyn a gofyn beth maen nhw'n ei olygu i Gymru.

“Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddeall pam ei bod yn ymddangos bod pobl iau yn gadael Cymru - yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg.  Byddwn yn edrych yn benodol ar yr effaith mae'r tueddiadau hyn yn ei chael ar economi Cymru a'r farchnad lafur, a'r goblygiadau i wasanaethau cyhoeddus.”

Cylch gorchwyl

Mae'r Pwyllgor yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 22 Medi. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Beth yw sbardunau sylfaenol newidiadau ym mhoblogaeth Cymru a amlygwyd gan Gyfrifiad 2021, yn enwedig diboblogi a heneiddio mewn rhai ardaloedd?
  • A yw pobl ifanc yn gadael Cymru? Pam?
  • Beth yw prif effeithiau'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n economaidd weithgar yng Nghymru?
  • Beth fydd effaith tueddiadau poblogaeth ar y galw am wasanaethau cyhoeddus a'u darpariaeth, gan gynnwys tai, addysg a gofal iechyd?
  • Pa gamau y dylai'r Llywodraeth eu cymryd i liniaru heriau newid poblogaeth yng Nghymru? Sut y gall pobl ifanc gael eu cymell i aros?
  • Sut y gellir annog mudwyr addysgedig a medrus i lenwi prinderau o ran llafur?
  • Pa mor bwysig yw mudo, o fewn y DU ac o'r tu allan i'r DU, er mwyn galluogi Cymru i dyfu ei phoblogaeth a lleihau'r gostyngiad yn nifer y bobl o oedran gweithio?
  • A yw'r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder a'r rhestr Mudwyr Medrus yn diwallu anghenion Cymru ar hyn o bryd?
  • Sut y gall targedau mewnfudo Llywodraeth y DU adlewyrchu anghenion cymdeithasol ac economaidd Cymru yn well?

Further information

Image credit: UK Parliament / Gabriel Sainhas