Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru i wynebu ASau ynghylch costau Metro De Cymru yn gor-redeg a dibynadwyedd gwasanaethau rheilffyrdd
13 July 2023
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth untro yn archwilio Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan ystyried yn bennaf gostau cynyddol Metro De Cymru.
Pan gadarnhawyd cyllid ar gyfer Metro De Cymru yn 2018, neilltuwyd £738 miliwn iddo. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae'r ffigur hwn wedi cynyddu i oddeutu £1 biliwn.
Bydd ASau hefyd yn debygol o drafod dibynadwyedd gwasanaethau trenau ledled Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf mae pryderon difrifol wedi’u codi am wasanaethau rheilffordd TrC. Yn y flwyddyn 2021-2022, cafodd 4% o wasanaethau rheilffyrdd TrC eu canslo, cynnydd o 2.2% rhwng 2017 a 2020. Mae hyn er gwaethaf llai o drenau ar waith. Yn ogystal, canfu arolwg Transport Focus mai dim ond bodlonrwydd o 69% a oedd gyda phrydlondeb a dibynadwyedd. Mae pryderon hefyd wedi'u mynegi ynghylch cynnal a chadw'r fflyd, ar ôl tri thân rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2023 yn unig.
Bydd yr aelodau hefyd yn holi tystion am brif lein De Cymru a gwasanaethau bysiau ledled Cymru.
Tystion
O 10.00:
- James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru
Mwy o wybodaeth
Image: PA