Llywodraeth y DU yn cadarnhau bod sgyrsiau'n parhau ynghylch gwerthu safle niwclear Wylfa ond dim ymrwymiad i gadwyni cyflenwi Cymru
7 July 2023
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Ynni Niwclear yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau bod sgyrsiau'n parhau ynghylch safle niwclear Wylfa, a bod “deialog gref” ar y ffordd orau o wireddu uchelgeisiau ynni niwclear Llywodraeth y DU.
- Darllenwch yr adroddiad llawn (HTML)
- Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF)
- Dod o hyd i'r holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn, gan gynnwys tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig
Hitachi sydd wedi bod yn berchen ar safle niwclear Wylfa ers 2012, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld y tir ar gael i ddatblygwr arall a hoffai fwrw ymlaen â phrosiect ynni niwclear. Mae Llywodraeth y DU yn myfyrio ar berchnogaeth barhaus Hitachi, ac yn cydnabod y bydd unrhyw werthiant yn benderfyniad masnachol i'r cwmni. Fodd bynnag, mae'r ymateb yn nodi bod yna ddeialog gref o hyd rhwng Llywodraeth y DU a phob perchennog safle niwclear.
Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai, cododd y Pwyllgor bryder bod angen mwy o eglurder ynghylch ynni niwclear gan Lywodraeth y DU ar y sector niwclear. Mewn ymateb, nododd Llywodraeth y DU fanylion ymyriadau polisi ynni niwclear sydd ar ddod, gan gynnwys proses cystadleuaeth adweithydd modiwlaidd bach (SMR) Great British Nuclear. Dywedodd y bydd y technolegau blaenllaw yn cael eu pennu yn ddiweddarach eleni.
Yn ei adroddiadau ar ynni yng Nghymru, gan gynnwys yn ei adroddiad diweddar ar Ynni Gwynt Arnofiol Alltraeth, mae'r Pwyllgor yn nodi'n glir y cyfleoedd i gadwyni cyflenwi Cymru a busnesau seilwaith ynni ar raddfa fawr. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid pennu polisi ar sut i dyfu'r sector yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau bod y sgiliau gofynnol yn eu lle. Ond mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn gosod gofyniad ar ddatblygwyr i ddefnyddio lefel isaf o gynnwys lleol yn ystod prosiect ynni niwclear.
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Wylfa yw'r ail safle niwclear gorau, ar ôl Sizewell C, i wireddu uchelgeisiau ynni niwclear Llywodraeth y DU. Mae'n galonogol bod perthynas adeiladol a chadarnhaol rhwng Gweinidogion a Hitachi, ond hoffem weld mwy o gynnydd o ran dod o hyd i brynwr i fynd ati i greu gorsaf ynni niwclear.
Mae Great British Nuclear, fel y galwyd amdano ac a groesawyd gan ein Pwyllgor, yn gam cryf a chadarnhaol gan Lywodraeth y DU i ddangos ei hymrwymiad i'r sector. Mae ei hymateb i'n hadroddiad heddiw yn nodi rhai blaenoriaethau cynnar, ac edrychaf ymlaen at ddysgu am y prosiectau SMR llwyddiannus yn ddiweddarach eleni.
“Rhaid i ni beidio â cholli momentwm ar yr agenda ynni niwclear, yn enwedig o ystyried y manteision enfawr a allai ddod i bobl a busnesau ledled Cymru.”
Mwy o wybodaeth
- Ymholiad: Ynni niwclear yng Nghymru
- Y Pwyllgor Materion Cymreig
- About Parliament: Select committees
- Visiting Parliament: Watch committees
Image: Ian Cappla/Geograph