ASau yn gorffen casglu tystiolaeth ar y gwrandawiad darlledu yng Nghymru gan Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidog y DU, Syr John Whittingdale
22 June 2023
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth derfynol fel rhan o'r ymchwiliad 'Darlledu yng Nghymru', gan glywed gan Gomisiynydd y Gymraeg a'r Gweinidog Gwladol, y Gwir Anrhydeddus Syr John Whittingdale OBE AS.
- Darlledu yng Nghymru
- Dydd Mercher 28 Mehefin am 10.00, Ystafell Wilson
- Gwyliwch yn fyw ar parliamentlive.tv
Yn y cyntaf o'r ddau banel, bydd ASau yn clywed gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, a Chyfarwyddwr Strategol Comisiwn y Gymraeg, Lowri Williams. Yn ystod sesiynau tystiolaeth blaenorol gyda chewri ffrydio a sefydliadau chwaraeon, roedd awydd i sicrhau bod cynnwys Cymraeg ar gael i wylwyr. Gall y Pwyllgor hefyd drafod teledu a radio Cymraeg, ac effaith y cyfryngau cymdeithasol ar y defnydd o'r Gymraeg.
Yn yr ail banel, bydd y Gwir Anrhydeddus Syr John Whittingdale OBE AS, y Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau, Twristiaeth a'r Diwydiannau Creadigol, yn cael ei holi gan y Pwyllgor. Bydd hyn yn cynnig cyfle i aelodau fyfyrio ar dystiolaeth a glywyd yn ystod yr ymchwiliad, yn amrywio o natur newidiol darlledu i hawliau darlledu chwaraeon, ac o radio lleol i wasanaethau ffrydio.
Tystion
O 10.00:
- Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
- Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol, Comisiwn y Gymraeg
O 10.40:
- Y Gwir Anrhydeddus Syr John Whittingdale OBE AS, Gweinidog Gwladol y Cyfryngau, Twristiaeth a'r Diwydiannau Creadigol a'r Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog Data a Seilwaith Digidol), yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
- Robert Specterman-Green, Cyfarwyddwr, Cyfryngau a Diwydiannau Creadigol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Rhagor o wybodaeth
Image credit: UK Parliament