Llywodraeth y DU yn dweud wrth ASau ei bod wedi ymrwymo i "roi’r DU ar flaen y gad" o ran gwynt alltraeth arnofiol
26 May 2023
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Gwynt alltraeth arnofiol yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn dweud bod gan y DU fwy o gapasiti o ran gwynt arnofiol nag unrhyw wlad arall, a'i bod yn bwriadu adeiladu ar sefyllfa'r DU ymhellach.
Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wynt alltraeth arnofiol. Roedd ei hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn nodi sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd.
Yn Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain, amlinellodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i ddefnyddio hyd at 5GW o wynt alltraeth arnofiol erbyn 2030. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid datblygu targedau pellach y tu hwnt i 2030 i gynnig mwy o sicrwydd i'r sector. Fodd bynnag, gwrthododd Llywodraeth y DU yr argymhelliad hwn, gan ddweud bod yn rhaid i fudd targedau gael ei gydbwyso yn erbyn angen i arsylwi ar sut mae technolegau sy'n codi eu pen yn datblygu dros amser.
Dadleuodd y Pwyllgor fod y potensial ar gyfer creu cyfoeth a swyddi yng Nghymru o wynt alltraeth arnofiol yn rhy fawr i'w golli. I’r perwyl hwnnw, pwysleisiodd yr Adroddiad y cyfle ar gyfer cadwyni cyflenwi lleol, a galwodd am gynnwys gofynion 'cynnwys lleol' yn y cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod porthladdoedd Cymru yn derbyn o leiaf hanner y cyllid gan y Cynllun Gweithgynhyrchu a Seilwaith Gwynt Alltraeth Arnofiol yn sgil y cyfle unigryw i'r Môr Celtaidd gynnal gwynt alltraeth arnofiol. Gwrthododd Llywodraeth y DU yr argymhellion hyn ar sail rheolau'r WTO a'r broses ymgeisio gystadleuol ar gyfer dyrannu'r Cynllun Gweithgynhyrchu a Seilwaith Gwynt Alltraeth Arnofiol.
Mae'r Pwyllgor eisoes wedi ystyried capasiti'r grid ac wedi dadlau y gallai cyfyngiadau rhwydwaith rwystro cyflenwi prosiectau ynni adnewyddadwy. Nid yw gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd yn eithriad, ac yn ymateb Llywodraeth y DU amlinellwyd camau i gyflymu'r gwaith o ddarparu seilwaith rhwydwaith trydan, gyda chynllun gweithredu i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
"Mae gwynt alltraeth arnofiol yn gyfle enfawr yn y Môr Celtaidd, ac yn un y mae'n rhaid ei hyrwyddo ar unwaith er mwyn i ni allu manteisio arno fel ceffyl blaen. Mae ymateb Llywodraeth y DU i'n hadroddiad yn ymrwymiad calonogol i wynt alltraeth arnofiol yn ehangach ledled y DU. Clywsom fod gwledydd eraill yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau cynnwys lleol ar gyfer y cadwyni cyflenwi ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i wneud yr un peth. Mae'n rhaid i Gymru elwa yn gymesur ar gyllid y Cynllun Gweithgynhyrchu a Seilwaith Gwynt Alltraeth Arnofiol."
Further information
Image: UK Parliament/Tyler Allicock