Aelodau Seneddol i drafod pwysigrwydd a'r cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu amddiffyn a seiberddiogelwch yng Nghymru
27 March 2023
Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad newydd yn edrych ar y diwydiant amddiffyn yng Nghymru, yn enwedig gweithgynhyrchu amddiffyn a seiberddiogelwch.
O Airbus i Kent Periscopes, Raytheon i Qioptiq, mae Cymru'n gartref i dros 160 o gwmnïau sy'n cefnogi'r sector amddiffyn. Mae sector amddiffyn Cymru wedi'i ategu ymhellach gan Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn (DECA) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sir y Fflint, sydd â chontract gwerth £0.5 biliwn gydag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau.
Ond mae pryderon y bydd gostyngiad yn y buddsoddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn erydu amlygrwydd sector amddiffyn Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y swyddi a'r busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn y sector wedi gostwng ac mae gwariant y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru wedi gostwng £300 miliwn ers 2018. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i archwilio tueddiadau o ran gwariant amddiffyn a sut y gall busnesau bach a chanolig elwa ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Yn ystod yr ymchwiliad, bydd Aelodau Seneddol yn edrych ar ba mor bwysig yw'r sector i economi Cymru, yn ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer twf ac yn archwilio rôl Llywodraeth y DU wrth hybu'r sector amddiffyn ymhellach yng Nghymru.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb:
“O gynnal jetiau ymladd i letya un o'r systemau gwyliadwriaeth a chuddwybodaeth awyrennau mwyaf datblygedig sy'n bodoli, mae'r sector amddiffyn yng Nghymru yn torri tir newydd ac yn gallu cystadlu â’r goreuon.
Fodd bynnag, mae buddsoddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru wedi gostwng, yn ogystal â nifer y swyddi a’r busnesau bach a chanolig yn sector amddiffyn Cymru. Yn ystod ein hymchwiliad, byddwn yn ystyried cyfleoedd a'r heriau’r dyfodol i sicrhau bod diwydiannau amddiffyn yng Nghymru – o weithgynhyrchu amddiffyn i seiberddiogelwch – yn ffynnu.
Mae'r sector amddiffyn yn gyflogwr o bwys ac mae'n helpu i gefnogi economïau lleol ar hyd a lled y wlad - felly mae cefnogi manteision amddiffyn Cymru o fudd i bawb ohonom.”
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 5 Mai. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar y cwestiynau isod, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt:
- Beth yw'r rhesymau dros dueddiadau gwariant y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ers 2019?
- Beth yw dealltwriaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn o sut mae'r cyllid yn llifo o brif gontractwyr i fusnesau sector amddiffyn bach a chanolig yng Nghymru?
- Beth yw'r berthynas rhwng prif gontractwyr Cymru, cyrff academaidd ac ymchwil Cymru, a datblygu technolegau amddiffyn newydd?
- A all Cymru gyfrannu at wella gallu diwydiannau amddiffyn y DU?
- A oes digon o sgiliau a gwybodaeth o fewn gweithlu Cymru i gefnogi twf sector amddiffyn Cymru?
- Sut gallai ad-drefnu ystad amddiffyn Cymru effeithio ar swyddi yn y sector amddiffyn yng Nghymru?
- A fydd y pwysoliad gwerth cymdeithasol o 10% ar gaffael y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi’r agenda Ffyniant Bro yng Nghymru?
Cyflwyniadau ysgrifenedig
Cyflwynwch eich tystiolaeth ysgrifenedig yma
Further information
Image: Ministry of Defence