Sylw: Cytuno ar ddau borthladd rhydd Cymru
23 March 2023
Wrth groesawu'r cyhoeddiad bod ceisiadau gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi'u cymeradwyo, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Yn 2020, daeth ein Pwyllgor i'r casgliad y gallai porthladdoedd rhydd yng Nghymru gyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad economaidd ac adfywio, a rhoi hwb i gadwyni cyflenwi lleol.
“Fe wnaethon ni annog Llywodraeth y DU i beidio 'capio' nifer y porthladdoedd rhydd yng Nghymru ond i ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod. Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw y bydd dau borthladd rhydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gan ddatgloi biliynau o bunnau o fuddsoddiad posibl a chreu 20,000 o swyddi.”
Further information
Image: Parliamentary copyright