Skip to main content

Gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'n rhoi tystiolaeth ar Gymru fel cyrchfan i dwristiaid byd-eang

26 January 2023

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan weinidogion llywodraethau'r DU a Chymru ynghyd â sefydliadau twristiaeth VisitBritain/VisitEngland a Croeso Cymru, yn sesiwn olaf ei ymchwiliad i Gymru fel cyrchfan i dwristiaid byd-eang.

Yn ystod y sesiwn bydd materion sy'n cael eu codi yn ystod yr ymchwiliad yn cael eu cyflwyno i'r tystion. Caiff Aelodau Seneddol gyfle i archwilio sut mae Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru, a Llywodraeth y DU a Visit Britain yn cydweithio i wella perfformiad Cymru o ran denu twristiaeth fyd-eang.

Bydd y panel cyntaf, gyda Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, yr Aelod o’r Senedd Vaughan Gething, yn ystyried sut mae Cymru'n cael ei marchnata ar hyn o bryd fel cyrchfan twristiaeth, a pherthynas Croeso Cymru â Visit Britain a sector twristiaeth Cymru. Mae'r Pwyllgor hefyd yn debygol o ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am dreth dwristiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ail banel, gyda Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth y DU, yr Aelod Seneddol Stuart Andrew, yn debygol o drafod pryderon a godwyd mewn tystiolaeth y gallai cysylltiad agos VisitBritain â VisitEngland arwain at flaenoriaethau sy’n gwrthdaro, yn ogystal ag adroddiadau gan sefydliadau twristiaeth Cymru mai prin yw'r ymwneud â VisitBritain.

Tystion

O 10.00:

  • Vaughan Gething Aelod o’r Senedd, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru
  • Heledd Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata, Llywodraeth Cymru
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Croeso Cymru

O 10.45:

  • Y Gwir Anrhydeddus Stuart Andrew AS, Y Gweinidog Chwaraeon, Twristiaeth a Chymdeithas Sifil yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
  • Duncan Parish, Dirprwy Gyfarwyddwr Twristiaeth a Diplomyddiaeth Ddiwylliannol, Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
  • Patricia Yates, Prif Weithredwr VisitBritain/VisitEngland

Further information

Image: Parliament copyright