Skip to main content

Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen 'newid sylweddol' i hybu gallu'r grid yng Nghymru mewn ymateb i ASau

24 January 2023

Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i'w hadroddiad ar allu'r grid yng Nghymru.

Rhybuddiodd adroddiad y Pwyllgor am heriau i'r grid yng Nghymru yn y dyfodol, gan bwysleisio’r pwysau y mae’n ei ddioddef ar hyn o bryd wrth i Lywodraeth y DU symud tuag at ddyfodol sero net a chynyddu’r seilwaith ynni adnewyddadwy. Mae'r Pwyllgor yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o'r 'newid sylweddol' sydd ei angen i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond gan nodi hefyd nad yw wedi ymrwymo i gynhyrchu asesiad y cytunwyd arno o allu'r grid trydan presennol.

Mae'r Llywodraeth yn cytuno ag argymhelliad allweddol yr adroddiad i fynd i'r afael â mater 'yr iâr a’r wy' fel y'i gelwir, lle mae datblygwyr yn aros i eraill ymrwymo ymlaen llaw i ysgwyddo costau’r cysylltiad grid a’r costau cryfhau. Mewn symudiad i'w groesawu, bydd Ofgem nawr yn gweithredu i leihau'r costau hyn o fis Ebrill 2023, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i gyflymu cysylltiadau ymhellach.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi’r dasg o leihau’n sylweddol yr amserlenni ar gyfer darparu'r isadeiledd strategol i'r rhwydwaith trawsyrru ar y tir yn nwylo'r Comisiynydd Rhwydweithiau Trydan. Er hynny, mae'n fater o frys mawr, ac mae'r Pwyllgor yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r argymhelliad penodol o osod terfynau amser i lywio'r gwaith cynllunio strategol sydd ei angen i sicrhau grid sy'n addas at y dyfodol a'r galw disgwyliedig.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn derbyn rhybudd argymhelliad yr adroddiad am beryglon cymunedau gwledig yn ysgwyddo baich y costau uwch o gryfhau’r grid, gyda mesurau pellach yn cael eu hamlinellu i amddiffyn trethdalwyr rhag cysylltiadau drud. Bydd Ofgem yn adolygu sut y codir tâl ar gwsmeriaid am gysylltiadau newydd, a bydd costau cryfhau yn cael eu talu gan ardal mwy o faint yn hytrach na dim ond y rhai sy'n byw mewn ardal wledig.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:

Rydyn ni'n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o gyfyngiadau'r grid trydan presennol, a'i haddewid i weithio i gyflymu gallu'r grid ymhellach. Os na awn ni i'r afael â hyn, fel y nodir yn ein hadroddiad, bydd methu â chael y grid i'r safon sero-net yn fygythiad i dwf economaidd cymunedau ledled Cymru.

“Mae'n newyddion addawol clywed fod gan Lywodraeth y DU gynllun ar waith i fynd i'r afael â chyfyng gyngor 'yr iâr a’r ŵy' lle mae datblygwyr yn aros i eraill ysgwyddo costau cysylltiad cyn iddyn nhw ymrwymo i adeiladu isadeiledd ynni.

“Mae ein Pwyllgor hefyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth nad yw'r system bresennol, lle mae cymunedau gwledig yn wynebu biliau uwch o ganlyniad i orfod rhannu costau cryfhau’r grid, yn gyfiawn, ac rydyn ni wedi'n calonogi o glywed y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno mesurau i sicrhau nad oes baich diangen ar gymunedau gwledig mwyach.

“Er bod hwn yn ymateb cadarnhaol yn bennaf i waith ein Pwyllgor, rydyn ni'n siomedig nad yw'n ymddangos bod asesiad ar y gweill o allu cyfredol y grid yng Nghymru. Bydd yn anodd gwireddu'r cyfleoedd cyffrous ar gyfer prosiectau adnewyddadwy yng Nghymru os nad ydyn nhw’n gallu cysylltu â grid sy'n gweithio'n llawn.”

Rhagor o wybodaeth

Image: © Robin Drayton (cc-by-sa/2.0)