Skip to main content

 Aelodau Seneddol yn holi darpar ddatblygwyr ynni niwclear yng Nghymru

19 January 2023

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan ddarpar ddatblygwyr niwclear newydd yn Wylfa a Thrawsfynydd fel rhan o'i ymchwiliad, Ynni Niwclear yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn clywed gan dystion ar draws dau banel. Yn gyntaf, bydd Aelodau Seneddol yn clywed gan gynrychiolwyr o Bechtel a Westinghouse, y cwmnïau sy'n cynnig adeiladu dau Adweithydd Dŵr dan Wasgedd AP1000 yn Wylfa, Ynys Môn.

Yna bydd ASau yn clywed gan gynrychiolwyr Rolls-Royce SMR am eu cynnig i adeiladu Adweithydd Modiwlar Bach (SMR), gyda Wylfa a Thrawsfynydd ill dau wedi'u clustnodi fel safleoedd posibl. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd restr fer derfynol o dri safle gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, fel mannau posibl i adeiladu ei ffatri SMR gyntaf a disgwylir penderfyniad terfynol ar y lleoliad yn fuan.

Gallai meysydd holi yn ystod y cyfarfod ymdrin â'r heriau o ariannu niwclear newydd a’r prinder sgiliau cyfredol, gan adeiladu ar yr hyn mae'r Pwyllgor wedi'i glywed mewn sesiynau blaenorol a gynhaliwyd fel rhan o'r ymchwiliad hwn.

Tystion

Dydd Mercher 25 Ionawr yn Ystafell Bwyllgor 5, Palas San Steffan

Rhag 10.00:

  • Ivan Baldwin, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Bechtel
  • Rory O'Neill, Cyfarwyddwr Materion Llywodraeth y DU a Chysylltiadau Cyhoeddus, Westinghouse

Rhag 10.45:

  • Mark Salisbury, Pennaeth Materion Rheoleiddio, Rolls-Royce SMR
  • Alastair Evans, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Llywodraeth, Rolls-Royce SMR

Rhagor o wybodaeth 

Image: Wiki / CC0