Skip to main content

Netflix i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad darlledu yng Nghymru

16 January 2023

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth arall ar ddarlledu yng Nghymru, a bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar wasanaethau fideo yn ôl y galw.

 

 

Bydd Aelodau Seneddol yn clywed gan gynrychiolwyr o Netflix a'r Gymdeithas Darlledwyr Masnachol a Gwasanaethau yn ôl y Galw (COBA).

Yn ddiweddar, cynhyrchodd Netflix gyfres gomedi-drama 'Sex Education' yng Nghymru, gan roi cyfleoedd i bobl leol weithio ar y cynhyrchiad. Roedd dwy bennod o ddrama hanesyddol boblogaidd Netflix, 'The Crown' yn canolbwyntio ar drychineb Aberfan ac ar y cefndir i arwisgiad Tywysog Cymru ym 1969. Netflix yw'r gwasanaeth tanysgrifio fideo yn ôl y galw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ac roedd 74 y cant o wylwyr dros 13 oed wedi gwylio'r gwasanaeth y llynedd, yn ôl Ofcom.

COBA yw corff y diwydiant sy'n cynrychioli darlledwyr masnachol a gwasanaethau yn ôl y galw, ac mae ei aelodau yn cynnwys Now TV, Sky a BT.

Yn ystod trydedd sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad, bydd yr Aelodau yn archwilio'r cynnydd yn nifer y darparwyr tanysgrifiad, yn ogystal â phryderon ynglŷn â'r effaith bosibl ar hyrwyddo'r Gymraeg o ganlyniad. Mae'n debygol y gofynnir am safbwyntiau tystion ar gynhyrchu a chomisiynu rhaglenni yng Nghymru, a’u cyfrifoldebau tuag at eu cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Tystion

 O 10.00:

  • Benjamin King, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus, y DU ac Iwerddon, Netflix
  • Adam Minns, Cyfarwyddwr Gweithredol, y Gymdeithas Darlledwyr Masnachol a Gwasanaethau yn ôl y Galw (COBA)

Further information

Image: Parliamentary copyright