Sut gallai'r economi leol elwa ar Wylfa Newydd?
8 December 2022
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth bellach ar ynni niwclear yng Nghymru, gan glywed gan arbenigwyr yn y sector ynni niwclear ac undeb llafur.
Ynni niwclear yng Nghymru
Dydd Mercher 14 Rhagfyr am 10.00, Ystafell Bwyllgor 16
Gwyliwch yn fyw ar parliamentlive.tv
Yn ei thrydedd sesiwn dystiolaeth o'r ymchwiliad, bydd aelodau yn archwilio effeithiau economaidd posibl datblygiadau niwclear newydd yng ngogledd Cymru gan gynnwys creu swyddi, sgiliau, a chadwyni cyflenwi. Mae datblygiadau posibl yng Nghymru yn cynnwys datblygiad niwclear ar raddfa fawr yn Wylfa – yn unol â'r British Energy Security Strategy a gyhoeddwyd yn gynharach eleni - ac adweithydd modiwlar bach cyntaf y DU naill ai yn Nhrawsfynydd neu Wylfa.
Tystion
O 10.00:
- Yr Athro Bill Lee, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear, Prifysgol Bangor
- Jasbir Sidhu, Llywydd y Sefydliad Niwclear
- Corhyn Parr, Cadeirydd Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear
- Daniel Maney, Swyddog Trafodaethau, Prospect
Image: geograph