Y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymddangos gerbron ASau
24 November 2022
Sesiwn Dystiolaeth
- Sesiwn untro gyda Phrif Weinidog Cymru
- Dydd Mercher 30 Tachwedd am 10.00, Ystafell Bwyllgor 15
- Gwyliwch yn fyw ar parliamentlive.tv
Bydd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig i drafod ystod eang o faterion gan gynnwys ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac effaith Datganiad yr Hydref ar y genedl.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, mae aelodau'r Pwyllgor hefyd yn debygol o archwilio cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU, a materion cyfansoddiadol gan gynnwys Confensiwn Sewel a diwygio'r Senedd.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer cwmni ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y cyhoedd, er mwyn uwchraddio'r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy. Mae hyn o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor, sydd wedi cynnal ymchwiliadau diweddar i ynni adnewyddadwy yng Nghymru a chapasiti'r grid, ac sydd ag ymchwiliad ar y gweill i ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW).
Gwylio
O 10.00:
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Further information
Image: Parliamentary copyright