ASau yn rhybuddio bod bygythiad sylweddol i dwf economaidd yng Nghymru oni bai bod cyfyngiadau’r grid ar gyfer ynni adnewyddadwy yn cael eu datrys
21 October 2022
Mae potensial Cymru am ynni adnewyddadwy, a'r swyddi gwyrdd a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni sero net, o dan fygythiad yn sgil diffyg arweiniad gan Lywodraeth y DU ar wella cysylltedd y grid, dadleua'r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw. Mae'r diffyg gweithredu hwn - ac oedi wrth gymeradwyo cysylltiadau â’r grid - yn arafu cynnydd o ran gwella cydnerthedd ynni’r DU. Mae hefyd yn rhoi twf economaidd mewn perygl i gymunedau ledled Cymru sydd ar fin manteisio ar gyfleoedd sy'n amrywio o ynni gwynt arnofiol ar y môr i ynni'r llanw.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod gwaith cadarnhaol ar y gweill. Mae hyn yn cynnwys glasbrint National Grid ESO i gysylltu ynni gwynt ar y môr â'r grid a phenodiad Comisiynydd Rhwydweithiau sydd â'r dasg o leihau amseroedd aros am gysylltedd â’r grid. Fodd bynnag, mae angen gwaith diwygio mwy dwys ar y grid trydan, dan arweiniad Llywodraeth y DU, i gefnogi'r galw disgwyliedig am ynni adnewyddadwy ac i wireddu datgarboneiddio yng Nghymru. Mae methiant yn y maes hwn yn peryglu targed sero net Llywodraeth y DU sydd wedi'i ymgorffori yn y gyfraith.
Mae'r rhwystrau a nodwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys y fframwaith rheoleiddio yn gwrthod caniatáu buddsoddiad rhagflaenol, oedi o ran rhoi caniatâd cynllunio a chostau cysylltu uchel ymlaen llaw yn gwneud llawer o brosiectau yn anhyfyw yn ariannol. Felly, mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddysgu gan Lywodraeth y DU sut y bydd yn cyflawni ei nod o leihau amseroedd prosesu caniatâd a thrwyddedu o 50% o fewn blwyddyn. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i Lywodraeth y DU geisio gwella cydnerthedd ynni'r DU yn sgil y rhyfel yn Wcráin a'r wasgfa ar gyflenwadau ynni rhyngwladol.
Mae datrys y materion hyn, a chreu dull mwy syml, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru. Mae llawer o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n barod i gael eu hadeiladu yn cael eu dal yn ôl yn sgil ansicrwydd ynghylch sut y byddant yn cysylltu â'r grid trydan. Mae'r cyfleoedd hyn, a allai gynorthwyo Cymru i ddod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy, yn ymestyn i ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd ac ynni'r llanw ym Morlais. Gallai'r prosiectau hyn gefnogi’r economïau lleol, swyddi a datblygiad sgiliau ar draws cymunedau yng Nghymru – rhywbeth a fydd yn angenrheidiol ar gyfer economi sero net – gan gynnig cyfleoedd allforio unigryw ar yr un pryd.
Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:
“Mae heriau diogelwch ynni'r DU a Sero Net yn galw am agwedd newydd at seilwaith y grid trydan yng Nghymru. Mae gan Gymru botensial aruthrol fel lleoliad allweddol ar gyfer cynhyrchu ynni glân. Ond bydd capasiti grid annigonol, a'r amseroedd aros hir ar gyfer gwneud y gwelliannau, yn llesteirio buddsoddiad mewn prosiectau newydd hanfodol. Mae datblygwyr eisiau cyflymu buddsoddiad mewn cyfleoedd megis ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd, ac mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddangos lefel debyg o frys ac uchelgais i leihau'r costau a'r rhwystrau i gysylltiadau newydd â’r grid.
“Er bod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i wella'r broses o wneud gwelliannau i'r grid, hyd yma nid yw'n glir y bydd y rhain yn cyflawni'r newidiadau mawr angenrheidiol sydd eu hangen. Heb arweiniad clir ar y mater hwn sy'n dwyn ynghyd y gwahanol bartïon dan sylw, capasiti grid annigonol fydd yn parhau i fod y rhwystr mwyaf wrth i Gymru geisio cyflawni Sero Net.
“Mae prosiectau ynni cymunedol yn rhan allweddol o'r darlun sy'n dod i'r amlwg ar gyfer cyflenwad trydan gwyrdd lleol a fforddiadwy i aelwydydd yng Nghymru. Ond yma hefyd, mae diffyg capasiti’r grid yn atal y prosiectau hyn rhag cyrraedd eu llawn botensial.”
Gwybodaeth bellach
Delwedd: Robin Drayton