Beth yw dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wrth i’r cyhoedd droi at wasanaethau ffrydio? ASau’n lansio ymchwiliad newydd
19 July 2022
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad newydd heddiw sy’n ystyried Darlledu yng Nghymru.
Teledu yw’r ffynhonnell newyddion sydd o hyd yn cael ei defnyddio fwyaf gan bobl yng Nghymru. Mae 74% o oedolion dros Gymru yn defnyddio’r teledu ar gyfer newyddion, gyda safleoedd gwe/apiau a’r radio yn dilyn. Yn 2020, aeth lefelau gwylio teledu wedi’i ddarlledu yng Nghymru yn groes i'r duedd hirdymor o ddirywiad a chodi am y tro cyntaf ers 2012.
Mae cyflymder y newid sy’n effeithio’r sector, gyda gwasanaethau ffrydio yn dod yn fwy a mwy cyffredin mewn ystafelloedd byw, yn cynnig cyfleoedd a heriau i ddarlledwyr traddodiadol. Mae’r newid yn debygol o fod yn arwain darlledwyr at edrych ar sut y mae eu cynulleidfaoedd yn dewis derbyn cynnwys a sut y gallant ddilyn y tueddiadau hynny, tra’n dal i sicrhau buddsoddi parhaol ar gyfer cynnyrch darlledu o ansawdd. Ceir cefndir heriol i hwn yng Nghymru, gyda sianeli teledu sy’n cynnig cynnwys i gynulleidfaoedd yn Saesneg a Chymraeg, megis BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, wedi gweld toriadau i'w cyllid dros yn y blynyddoedd diwethaf. Ymysg y materion eraill i'w hystyried, bydd y Pwyllgor yn edrych i weld os yw modelau cyllid presennol ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn ddigon deinamig mewn sector sy’n esblygu’n barhaus.
Mae newid eisoes ar droed gyda hawliau darlledu chwaraeon am ddim. Cyrhaeddodd S4C, ynghyd ag ITV yn Lloegr ac STV yn yr Alban, gytundeb yn ddiweddar gyda Sky Sports i ddarlledu’r gêm ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Wcráin y mis diwethaf. Serch hynny, mae S4C yn wynebu her yn y tymor hwy gydag Amazon Prime yn sicrhau’r hawliau i gemau rygbi rhyngwladol yr hydref ac yn cadw’r sylwebaeth iaith Gymraeg, sy’n golygu y bydd y tu ôl i wal dalu. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y camau sydd angen i Lywodraeth y DU, cyrff chwaraeon a darlledwyr eu cymryd i sicrhau y bydd darlledu am ddim yn goroesi.
Mae lansiad yr ymchwiliad yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddiweddar gydag S4C, lle clywodd y Pwyllgor am y rôl bwysig y dylai setiau teledu clyfar chwarae i wneud y sianel yn weladwy ac yn hawdd ei chyrraedd i gynulleidfaoedd. Pwysleisiwyd hefyd yr her o ran recriwtio, ynghyd â galwadau am fuddsoddi mewn hyfforddiant i sicrhau dyfodol cwmnïoedd creadigol annibynnol.
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:
“Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu cyfnod o newid enfawr wrth i fwy a mwy o wylwyr ddewis ffrydio cynnwys trwy lwyfannau ar-lein. Er gwaethaf y pwysau ar gyllid a buddsoddi, mae darlledwyr yn parhau i ddarparu cynnyrch gwreiddiol ac o ansawdd yng Nghymru.
“Fel Pwyllgor, rydym yn awyddus i nodi beth a ellir ei wneud i sicrhau dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Ymysg materion eraill, rydym yn edrych i weld os yw’r model ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gynaliadwy, a sut y gallwn sicrhau bod cynnwys am ddim yn goroesi.”
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig, sydd yn ymwneud ag unrhyw un neu’r holl faterion a godir yn y cylch gorchwyl isod, erbyn dydd Gwener 22 Awst 2022.
- A yw’r modelau cyllido presennol ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gynaliadwy ar gyfer sicrhau dyfodol diwydiant darlledu llwyddiannus a deinamig yng Nghymru?
- Beth fydd effaith preifateiddio Channel 4 ar y sector darlledu yng Nghymru?
- Beth dylai dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru fod o ystyried twf llwyfannau ffrydio byd-eang ac arferion gwylio sy’n newid, yn enwedig ymysg defnyddwyr sy’n rhan o’r to ifanc?
- Pa gamau sydd angen i Lywodraeth y DU, cyrff chwaraeon a darlledwyr eu cymryd i sicrhau bod darlledu am ddim yn goroesi?
- A fyddai symud i ffwrdd o ddarlledu chwaraeon am ddim yn sicrhau mwy o fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru?
Further Information
Image: CC0